Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 5 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:35, 5 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ymateb, er ei fod, mewn gwirionedd, yn groes i benderfyniad eich Llywodraeth i gynyddu cyllideb y GIG ar draul cyllidebau awdurdodau lleol. Ond rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi mai un o nodweddion pwysicaf y GIG, nad yw'n agored i drafodaeth, yw ei fod am ddim yn y man darparu, ac wrth gwrs, mae hynny'n golygu presgripsiynau am ddim, llawdriniaethau am ddim, pelydr-x am ddim ac yn y blaen. Nawr, byddai pob un ohonom yn ddig iawn pe baem yn clywed bod rhywun, ar ôl cael diagnosis o ganser, yn wynebu bil o gannoedd o filoedd o bunnoedd a bod yn rhaid iddynt werthu eu cartref i dalu am eu triniaeth ganser. Byddem hefyd yn ymateb i gynnig i'w galluogi i gadw £50,000 yn lle £30,000 o dan yr amgylchiadau hyn gyda choegni am yr haelioni. Felly, pam y mae gwahaniaethu'n dal i ddigwydd yn erbyn pobl â dementia?