Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 5 Mehefin 2019.
Ie, rydym yn mabwysiadu ymagwedd integredig tuag at ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol. Dyna pam fod gennym, am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig, gynllun iechyd a gofal cymdeithasol cwbl gydgysylltiedig, 'Cymru Iachach', a gynlluniwyd gan y maes iechyd, llywodraeth leol a'r trydydd sector ar y cyd. Ac fe welwch, yn y gyllideb ddiwethaf, fy mod wedi penderfynu darparu rhan o'r arian drwy'r gyllideb iechyd, a'i roi yn ôl i ofal cymdeithasol. Mae llawer o'r gwaith a wnawn ar gyflawni 'Cymru Iachach' yn edrych ar sut rydym yn ariannu iechyd a gofal cymdeithasol i weithio'n agosach gyda'i gilydd. Mae'r gronfa trawsnewid a'r cynigion rwyf wedi'u cymeradwyo yn enghreifftiau da o hyn ar waith yn ymarferol.