Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 5 Mehefin 2019.
Yr hyn rydym eisoes wedi'i wneud yw cynyddu'r arian sydd ar gael i dalu am y cyflog byw, er mwyn i hynny helpu cartrefi gofal i godi cyflogau eu staff i gyfraddau'r cyflog byw. Ac rydym hefyd yn gwneud rhai o'r pethau y soniais amdanynt yn y cwestiwn cynharach—rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i wella statws gweithwyr cartrefi gofal, gan y credaf fod hynny'n un o'r pethau pwysicaf i'w gwneud. Oherwydd mae'n sicr fod gofalu am yr henoed a phlant yn un o'r swyddi pwysicaf y gellir eu gwneud, ond serch hynny, nid yw statws y staff hynny'n uchel iawn. A gwyddom fod y cyflogau yn rhywbeth rydym yn rhoi sylw iddo, rydym wedi bod yn mynd i'r afael â chontractau dim oriau, ac rydym wedi bod yn edrych ar yr amser y mae pobl yn ei dreulio'n teithio ar gyfer darparu gofal cartref. Felly, credaf ein bod yn ymdrin â'r materion hyn, ond nid wyf yn gwadu bod hyn yn broblem, ac mae'n broblem sy'n cael sylw gennym.