Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 5 Mehefin 2019.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Fodd bynnag, mater canolog y mae angen mynd i'r afael ag ef yw cyllid cartrefi gofal. Cefnogir hyn gan Mario Kreft, cadeirydd Fforwm Gofal Cymru, sy'n gweithio'n galed iawn yn y sector hwn, ac sydd wedi gwneud sylwadau cyhoeddus—dyma a ddywedodd:
Gwyddom fod dros 80 y cant o'r darparwyr gofal cymdeithasol yn dweud pa mor anodd yw denu a chadw staff a'r unig ffordd o fynd i'r afael â hynny yw drwy gynyddu ffioedd i lefelau realistig fel y gellir buddsoddi arian yn y rheng flaen yn hytrach na'r swyddfa gefn.
Mae'r neges yn glir, Ddirprwy Weinidog: mae cartrefi gofal yn cael eu tanariannu gan awdurdodau lleol, a chan eich Llywodraeth, a'n byrddau iechyd, i'r fath raddau fel bod staff—[Torri ar draws.]—a wnewch chi ganiatáu i'r Dirprwy Weinidog ymateb i mi, os gwelwch yn dda—i'r fath raddau fel na ellir cadw staff na'u talu'n briodol. Mae hyn yn anghynaliadwy. Felly, a wnewch chi ymrwymo i adolygu'r fformiwlâu ariannu a ddefnyddir i bennu ffioedd ar gyfer unigolion a ariennir gydag arian cyhoeddus?