Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 5 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:28, 5 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Mae Fforwm Gofal Cymru, a gobeithiaf fod y Gweinidog yn llwyr ymwybodol o hyn, wedi cynnal arolwg mawr o gartrefi gofal ledled Cymru. Mae'r canlyniadau'n syfrdanol. Yr hyn a ddatgelwyd yw bod 16 y cant o gartrefi gofal ledled Cymru yn disgwyl y byddant yn cau yn ystod y pum mlynedd nesaf. Mae hyn yn frawychus, ynghyd â'r ffaith bod Fforwm Gofal Cymru wedi amcangyfrif y gellid colli mwy na 1,500 o welyau yng Nghymru rhwng nawr a 2024. I roi hyn yn ei gyd-destun, mae nifer y cartrefi gofal i oedolion hŷn wedi gostwng 4 y cant ac eisoes mae 247 yn llai o welyau nag yn 2014-15. Yn amlwg, mae nifer y cartrefi gofal wedi bod yn gostwng ac mae'n parhau i wneud hynny. Pa gamau rydych yn eu cymryd i wrthdroi hyn ac i alluogi cynnydd yn y nifer o welyau cartrefi gofal priodol?