Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 5 Mehefin 2019.
Mae hyn yn achos pryder i'r Llywodraeth. Rydym yn pryderu am y ffaith bod y system ofal o dan bwysau ac rydym yn ceisio gwneud yr hyn a allwn i ailgydbwyso'r sector gofal. Un o'r pethau rydym yn eu gwneud yw ceisio hybu gwahanol fodelau gofal. Felly, er enghraifft, rydym yn annog awdurdodau lleol i ystyried gweithredu mwy o gartrefi gofal yn fewnol. Rydym hefyd yn edrych i weld a allwn ddatblygu modelau cydweithredol. Felly, rydym yn edrych ar y system gartrefi gofal mewn ffordd ehangach. Rydym hefyd yn ceisio hybu statws y rheini sy'n gweithio mewn cartrefi gofal. Er enghraifft, cawsom ymgyrch fawr i geisio denu mwy o weithwyr i'r sector gofal, gan bwysleisio pwysigrwydd cymwysterau, a sut i ddatblygu. Ac rydym hefyd wedi gwella'r system gofrestru. A chredwn y bydd yr holl faterion hynny'n gwneud y system ofal yn fwy hyfyw.