Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 5 Mehefin 2019.
Ddirprwy Weinidog, cyfarfûm yn ddiweddar â chynrychiolwyr Gofal Solfach, elusen gofrestredig sy'n gweithredu ar hyn o bryd ym mhentref Solfach yn fy etholaeth. Nawr, mae'r elusen yn gweithredu model arloesol iawn ar gyfer darparu gofal, gyda ffocws clir ar gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain. Nod yr elusen yw gwella iechyd a lles y gymuned, ac mae'n cynnal digwyddiadau i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd hefyd. Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, hoffwn eich annog chi, a'r Gweinidog yn wir, i edrych ar y model gofal penodol hwn, o gofio bod Gofal Solfach yn gwneud gwaith gwych yn eu cymuned. O ystyried llwyddiant penodol y model hwn, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i'r mathau hyn o fodelau cymunedol a pha gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu i sefydliadau fel Gofal Solfach?