2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 5 Mehefin 2019.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau gofal yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Hywel Dda? OAQ53966
Mae sicrhau bod gan bobl fynediad at ofal o ansawdd uchel yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Dyma pam rydym yn buddsoddi £180 miliwn eleni a fydd yn cael ei dargedu ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu modelau gofal di-dor ym mhob rhanbarth.
Rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog am ei hateb. Bydd y Gweinidog iechyd ei hun yn ymwybodol o achos unigol torcalonnus a godwyd gyda mi gan deulu yn fy rhanbarth. Roedd gan y gŵr anghenion gofal cymhleth iawn a phecyn wedi'i gytuno i allu ei ryddhau o'r ysbyty i fynd adref o dan ofal iechyd parhaus. Arweiniodd methiant Allied Healthcare Ltd at sefyllfa lle roedd y pecyn gofal a ddarparwyd iddo yn ei gartref yn anghynaliadwy, ac mewn gwirionedd, yn beryglus. Yna, cafodd ei aildderbyn i'r ysbyty. Mae hon wedi bod yn stori hir—ac rwy'n fwy na pharod i anfon copi o'r ohebiaeth at y Dirprwy Weinidog—gan fod cyfres gyfan o broblemau wedi arwain at aildderbyn y gŵr, ar ôl chwe mis o hyn, i ysbyty acíwt.
Tybed a wnaiff y Dirprwy Weinidog ymrwymo heddiw i gynnal asesiad o faint o gleifion sydd wedi cael eu heffeithio ledled Cymru gan fethiant Allied Healthcare Ltd. Wedi'r cyfan, mae 12 mis wedi bod bellach ers y rhybuddion ariannol cyntaf a chwech mis ers i'r cwmni fynd i'r wal. Felly, hoffwn wybod faint o gleifion yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt gan hyn. Rwy'n siŵr nad fy etholwr fydd yr unig un, yn anffodus. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ymrwymo i ymchwilio i weld faint o'r cleifion hyn sydd heb becyn gofal digonol o hyd ac a yw hynny'n golygu eu bod gartref a ddim yn derbyn y pecyn gofal a ddylai fod ganddynt, neu a yw hynny'n golygu efallai eu bod yn cael eu lleoli yn amhriodol mewn gofal preswyl?
A gaf fi ofyn i'r Dirprwy Weinidog, gyda'r Gweinidog, ymrwymo i edrych ar effeithiau hyn, o bosibl, ar dimau nyrsys ardal? Yn yr achos penodol hwn, gwnaeth y tîm nyrsys ardal eu gorau i gamu i'r adwy, ond nid oedd hynny'n bosibl. Ac a all y Dirprwy Weinidog ymrwymo i gynnal trafodaethau gyda bwrdd iechyd Hywel Dda—ond efallai y bydd eraill ledled Cymru—a'r awdurdodau lleol perthnasol, i edrych ar y gwaith y maent yn ei wneud i gael darpariaeth yn lle'r pecynnau gofal arbenigol a gollwyd o ganlyniad i fethiant Allied Healthcare Ltd? Ac yn olaf, a yw'r Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi fod yr achos penodol hwn yn tynnu sylw at y risg o ddibynnu ar gwmnïau'r sector preifat i ddarparu'r pecynnau gofal hynod bwysig hyn i rai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed? A wnaiff hi ymrwymo i weithio gyda byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol i ddatblygu modelau mwy amgen a chynaliadwy fel na fydd yn rhaid i unrhyw glaf arall ddioddef ac fel na fydd yn rhaid i unrhyw deulu arall ddioddef yr hyn y mae'r teulu hwn a'r gŵr hwn wedi ei brofi?
Diolch i Helen Mary Jones am ei chwestiwn. Rwy'n ymwybodol o'r ohebiaeth a gafodd Helen Mary Jones gyda'r Gweinidog am ei hetholwyr, ac rwy'n ymwybodol o natur dorcalonnus yr hyn a ddigwyddodd. Yn ddi-os, credaf fod methiant ariannol Allied Healthcare cyn y Nadolig diwethaf wedi rhoi straen ychwanegol enfawr ar y bwrdd iechyd lleol ac ar yr awdurdod lleol. A chredaf ei bod yn bwysig cofio bod y rheoliad a roddwyd ar waith o dan Ddeddf 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr wrando ar yr hyn sy'n bwysig i'r unigolyn, sy'n rhywbeth a oedd i'w deimlo'n gryf iawn yn fy marn i yn yr ohebiaeth a welais. Hefyd, mae'n pwysleisio ansawdd y gofal, ac roedd yn anffodus iawn fod y sefyllfa wedi datblygu fel y gwnaeth gyda'ch etholwr.
Gwyddom fod pwysau enfawr ar ofal cartref ac ar ofal iechyd parhaus, a chredaf nad oes amheuaeth fod sefyllfa Allied Healthcare wedi gwneud hynny'n waeth. Rwy'n sicr yn barod i edrych ar rai o'r pwyntiau a wnaed ganddi. Rydym eisoes yn ystyried ceisio arallgyfeirio'r sector cyfan, gan nad yw'r straen o gael y ddibyniaeth lwyr hon ar ddarpariaeth gofal preifat yn iach. Mae angen y ddarpariaeth gofal preifat arnom ac mae darpariaeth ardderchog i'w chael yno, ond hefyd, fel y dywedais mewn ymateb i gwestiynau Janet Finch-Saunders yn gynharach, mae angen modelau gofal eraill fel nad ydym yn ddibynnol ar un maes—er enghraifft, datblygu cwmnïau cydweithredol a busnesau gwerth cymdeithasol, yn ogystal ag annog awdurdodau lleol i gynnig mwy o ddarpariaeth yn fewnol. Felly, rydym eisoes yn gwneud hynny gan ei fod yn rhan o'n ffrwd waith, a chredaf fod hyn oll wedi tynnu sylw at hynny. A chredaf fod yr effeithiau y mae wedi'u cael ar y gwasanaeth nyrsys ardal a'r effeithiau y mae wedi'u cael ar unigolion a faint ohonynt sydd i'w cael yn rhywbeth y gallem edrych arno fel rhan o'r ymchwiliadau ehangach rydym yn eu hystyried ynghylch sut y bydd y system gofal cymdeithasol yn datblygu.
Felly, unwaith eto, mae'n wir ddrwg gennyf am y profiad a gafodd ei hetholwyr, ac rydym yn awyddus i geisio osgoi hynny rhag digwydd. Ond credaf ei bod hefyd yn bwysig dweud, pan aeth Allied Healthcare i'r wal, fod Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro wedi gweithredu'n gyflym i redeg eu cartrefi'n fewnol, sydd yn amlwg yn gam da ymlaen. Ond gyda'r sefyllfaoedd gofal iechyd parhaus, gwn fod hynny wedi bod yn anos.
Ddirprwy Weinidog, cyfarfûm yn ddiweddar â chynrychiolwyr Gofal Solfach, elusen gofrestredig sy'n gweithredu ar hyn o bryd ym mhentref Solfach yn fy etholaeth. Nawr, mae'r elusen yn gweithredu model arloesol iawn ar gyfer darparu gofal, gyda ffocws clir ar gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain. Nod yr elusen yw gwella iechyd a lles y gymuned, ac mae'n cynnal digwyddiadau i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd hefyd. Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, hoffwn eich annog chi, a'r Gweinidog yn wir, i edrych ar y model gofal penodol hwn, o gofio bod Gofal Solfach yn gwneud gwaith gwych yn eu cymuned. O ystyried llwyddiant penodol y model hwn, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i'r mathau hyn o fodelau cymunedol a pha gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu i sefydliadau fel Gofal Solfach?
Diolch yn fawr iawn i Paul Davies am ei gwestiwn, ac yn wir, hoffwn ymweld â Gofal Solfach, o bosibl, i weld beth yn union y maent yn ei wneud, gan fod yr hyn y maent ei wneud yn cyd-fynd yn llwyr â'r hyn rydym yn awyddus i'w wneud fel Llywodraeth. Yn sicr, mynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, cadw pobl yn eu cartrefi eu hunain, credaf mai dyna'r union bethau rydym yn ceisio'u hyrwyddo fel Llywodraeth. Fel rhan o'n harolwg a'n hadolygiad o'r holl fathau o ofal cymunedol sy'n cael eu hystyried, yn sicr mae gofal gan y trydydd sector a'r sector gwirfoddol yn un o'r meysydd allweddol sy'n darparu'r amrywiaeth o ofal rydym yn chwilio amdani. Felly yn sicr, credaf fod hon yn enghraifft y byddem yn awyddus iawn i edrych arni ac i weld a allwn ei hybu, ac eraill sy'n debyg iddi, i ddarparu'r amrywiaeth hon o ofal sydd ei hangen arnom fel nad ydym mewn sefyllfa lle rydym yn ddibynnol iawn ar un sector.