Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 5 Mehefin 2019.
Diolch yn fawr iawn i Paul Davies am ei gwestiwn, ac yn wir, hoffwn ymweld â Gofal Solfach, o bosibl, i weld beth yn union y maent yn ei wneud, gan fod yr hyn y maent ei wneud yn cyd-fynd yn llwyr â'r hyn rydym yn awyddus i'w wneud fel Llywodraeth. Yn sicr, mynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, cadw pobl yn eu cartrefi eu hunain, credaf mai dyna'r union bethau rydym yn ceisio'u hyrwyddo fel Llywodraeth. Fel rhan o'n harolwg a'n hadolygiad o'r holl fathau o ofal cymunedol sy'n cael eu hystyried, yn sicr mae gofal gan y trydydd sector a'r sector gwirfoddol yn un o'r meysydd allweddol sy'n darparu'r amrywiaeth o ofal rydym yn chwilio amdani. Felly yn sicr, credaf fod hon yn enghraifft y byddem yn awyddus iawn i edrych arni ac i weld a allwn ei hybu, ac eraill sy'n debyg iddi, i ddarparu'r amrywiaeth hon o ofal sydd ei hangen arnom fel nad ydym mewn sefyllfa lle rydym yn ddibynnol iawn ar un sector.