Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 5 Mehefin 2019.
I ymhelaethu ar gwestiwn Mr Alun Davies, Weinidog, mae ffigurau'n dangos bod criwiau ambiwlans ledled Cymru wedi treulio dros 65,000 o oriau'n aros i drosglwyddo cleifion mewn ysbytai y llynedd—a soniasoch eisoes am y 25,000 awr ers 2015, ar ben hynny hefyd. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r broblem o oedi estynedig wrth drosglwyddo cleifion i wella gwasanaethau ambiwlans ym Mlaenau Gwent ac mewn mannau eraill yng Nghymru? Gwyddom fod y gweithwyr ambiwlans yn gwneud gwaith gwych, ond beth yw'r rhesymau a'r ffeithiau a'r ffigurau y tu ôl i'r ffaith bod yr amser trosglwyddo mor hir y tu allan i ysbytai yn hytrach na bod pobl yn yr ysbyty? Diolch.