Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 5 Mehefin 2019.
Nid wyf yn siŵr, Lywydd, a allaf ganfod unrhyw beth sy'n wahanol yn y cwestiwn y mae'r Aelod wedi'i ofyn i'r hyn a ofynnwyd yng nghwestiwn atodol yr Aelod dros Flaenau Gwent. Ailadroddaf eto fod cyfres o gamau ar y gweill eisoes i edrych ar fesurau mewn adrannau achosion brys, fel y dywedais yn fy ateb i Alun Davies. Yn gyffredinol o fewn ein system, rydym wedi gweld gwelliant yn ystod y chwarter diwethaf, ond mae her yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac rwy'n edrych i weld beth sy'n digwydd ar draws y system gyfan i sicrhau'r gwelliant. Ond heblaw am hynny, Lywydd, nid wyf yn credu y gallaf ychwanegu at yr ateb rwyf eisoes wedi'i roi ar yr un pwnc.