Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 5 Mehefin 2019.
Diolch am y cwestiwn. Cyfrifoldeb Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw sicrhau ei fod yn darparu mynediad digonol at wasanaethau therapi, gan gynnwys therapi iaith a lleferydd, gan ystyried yr arferion gorau perthnasol. Fodd bynnag, mae'n bleser gennyf gadarnhau nad oes neb yng ngogledd Cymru yn aros yn hwy na'r targed o 14 wythnos am wasanaethau therapi, ac mae hynny wrth gwrs yn cynnwys mynediad at therapi iaith a lleferydd.