Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 5 Mehefin 2019.
Iawn, a diolch am y cwestiwn. Drwy gynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn cynhwysfawr o daliadau ex gratia ynghyd â chymorth cofleidiol helaeth sy'n cynnwys cymorth seicolegol, cyngor a chymorth ar fudd-daliadau a chyfeiriadau at wasanaethau cyhoeddus eraill a ddarparwn ledled Cymru.