Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 5 Mehefin 2019.
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod y BBC wedi adrodd ar achos Kirk Ellis o Gaerffili, a oedd wedi dal hepatitis C pan oedd yn blentyn bach, ond ni ddaeth yn ymwybodol o hynny nes ei fod yn 13 oed. Mae'n cael £18,500 y flwyddyn o iawndal. Ym mis Ebrill, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai cleifion yn Lloegr yn cael £10,000 ychwanegol. Ni fyddai hynny'n berthnasol i gleifion sydd wedi'u heffeithio yng Nghymru. Nid yw'n deg bod y 175 o bobl â haemoffilia yng Nghymru a gafodd eu heintio yn y 1970au a'r 1980au yn cael llai o gymorth ariannol na dioddefwyr yn Lloegr a'r Alban. Iechyd—er ei fod yn fater datganoledig, mae Kirk Ellis yn cydnabod bod hyn wedi digwydd cyn datganoli, dan oruchwyliaeth Llywodraeth y DU, ac mai hwy a ddylai fod yn gyfrifol am wneud taliadau. Ond beth bynnag fydd yn digwydd, mae angen datrys y mater hwn, a hoffwn wybod beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i gael y mater hwn wedi'i ddatrys a sicrhau bod taliadau teg yn digwydd ar draws y Deyrnas Unedig.