Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 5 Mehefin 2019.
I fwy na 154,000 o bobl yn Sir y Fflint a thros 675,000 o bobl ar draws gogledd Cymru, mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn darparu llawdriniaethau sy'n achub bywydau, yn gofalu am ein pobl fwyaf bregus a'n henoed, yn cefnogi ein ffrindiau a'n teuluoedd drwy drawma marwolaeth, a hefyd yn cynorthwyo mamau a thadau i ddod â bywyd newydd i'r byd hwn. Felly, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddechrau drwy gydnabod hynny a diolch i bob aelod o staff y GIG ledled Cymru, ar draws y DU, am eu gwaith a'r arweiniad y maent yn ei ddangos yn eu cymunedau, yn ogystal â'r rhan y maent yn ei chwarae yn y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol.
Rwy'n gwybod, fel y bydd Aelodau eraill ar draws y Siambr hon sy'n cynrychioli gogledd Cymru yn gwybod, fod y gofal a gaiff llawer o'n hetholwyr gan y bwrdd iechyd gystal â'r gorau. Pan fyddaf yn siarad â chleifion a fy etholwyr fy hun, mae llawer yn dweud wrthyf eu bod wedi cael gofal rhagorol ac yn sôn am broffesiynoldeb y staff. Ond mae gennyf ormod hefyd sy'n troi ataf am help ar ôl cael eu siomi. Yn gyntaf, rwy'n credu bod y bwrdd iechyd wedi gwneud peth cynnydd cadarnhaol iawn drwy gydnabod y risgiau i'w berfformiad, sef y methiant i gynnal ansawdd gwasanaethau i gleifion, cynnal cynaliadwyedd ariannol, datblygu cynlluniau ac ailgysylltu â'r cyhoedd yn ehangach.
Pan fydd etholwyr yn cysylltu â mi, yn amlach na pheidio mae'n ymwneud â meddygon teulu y tu allan i oriau arferol, gwasanaethau gofal sylfaenol, gwasanaethau iechyd meddwl ac amseroedd ymateb ambiwlansys. Felly, gan gyffwrdd yn fyr â gofal sylfaenol, gwn fod y problemau'n cael eu cydnabod yn fy etholaeth a bod angen gwneud mwy i sicrhau gweithlu gofal sylfaenol cynaliadwy. Yn yr un modd, o ran meddygon teulu y tu allan i oriau arferol, gwn fod buddsoddiad sylweddol wedi'i wneud a bod perfformiad yn gymharol dda o edrych arno gyda gweddill Cymru, ond bydd Aelodau gogledd Cymru hefyd yn gwybod bod sawl her yn parhau o ran y gweithlu, perfformiad, rheoli risg a chyllido gwasanaethau o'r fath.
Bydd yr Aelodau hefyd yn gwybod fy mod wedi siarad llawer am dechnoleg newydd a sut y gall hynny gynorthwyo ein gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol. Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu'n wirioneddol, os ydym yn ddigon dewr, fod Betsi Cadwaladr mewn sefyllfa dda i arwain ar y dechnoleg newydd, ac y bydd yn elwa o wneud hynny, boed drwy adael iddynt arwain ar dreialon technolegol penodol neu drwy ddefnyddio mwy o wasanaethau ar-lein i leihau'r pwysau yn y gwasanaethau meddyg teulu.
Ar iechyd meddwl, sydd, wrth gwrs, yn un o'r materion mwyaf personol i mi, gwn beth yw maint sylweddol yr her barhaus i wella'r gwasanaethau hynny ar draws gogledd Cymru. Bydd y Gweinidog yn gwybod, ers imi gael fy ethol, fy mod wedi cael llawer o waith achos ar iechyd meddwl, ac edrychaf ymlaen yn arbennig at ei ateb i fy ymholiad diweddar ar argaeledd therapi ymddygiad dialectig yng ngogledd Cymru, rhywbeth a fydd o gymorth i lawer o fy etholwyr.
Yn olaf, ar fater cyfansoddiad y bwrdd iechyd fel y mae—oherwydd gwn fod hwn yn bwnc trafod dadleuol yn y gorffennol, ond o'r ohebiaeth rwy'n dal i'w chael a'r cyfarfodydd a gefais, credaf y byddai'n anghywir rhoi'r gorau'n llwyr i'r syniad o ad-drefnu Betsi Cadwaladr. I mi, mae angen i unrhyw newid bwyso a mesur y dystiolaeth—nid tystiolaeth wleidyddol, ond y dystiolaeth glinigol, ac wedi'i harwain gan weithwyr proffesiynol. Ar yr un pryd, mae angen i ni wneud yn siŵr na fyddai unrhyw newidiadau o'r fath yn arwain at ganlyniadau anfwriadol neu'n effeithio ar yr anawsterau y mae eisoes yn eu hwynebu. Yn y pen draw, rhaid inni ganolbwyntio ar sicrhau bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn dod allan o fesurau arbennig ac yn adennill hyder y rhai sy'n teimlo eu bod wedi cael cam.
Rwyf am orffen fy nghyfraniad gyda hyn, Ddirprwy Lywydd, ond rwyf hefyd yn awyddus iawn i sicrhau bod cleifion ar draws gogledd Cymru, yn enwedig fy etholwyr, yn parhau i allu cael gwasanaethau trawsffiniol, yn union fel rydym ni'n falch o groesawu cleifion o Loegr i Gymru. Ond hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud diolch am ddod â phawb at ei gilydd, oherwydd ni ddylem fod yn defnyddio'r gwasanaeth iechyd a dadleuon am y gwasanaeth iechyd fel pêl wleidyddol, ond dylem siarad yn agored ac yn onest am y materion hyn gan barchu staff gweithgar y GIG. Dyna'r ffordd rwy'n gweld newid a dyma'r ffordd y mae angen i bob un ohonom weld newid. Diolch.