Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 5 Mehefin 2019.
A gaf fi fynegi fy niolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw? Nid yw hon, fel y dywedodd Angela Burns, yn sefyllfa y byddai unrhyw un ohonom yn dymuno bod ynddi ein hunain, ac mae'n effeithio, wrth gwrs, yn uniongyrchol iawn ar lawer iawn o fy etholwyr yng ngorllewin ardal Betsi Cadwaladr.
Rwy'n pryderu'n fawr ein bod yn cael llawer o hunanfodlonrwydd gan y Gweinidog hwn, a llawer o 'bydd popeth yn iawn'. Rwyf wedi bod yn edrych yn ôl drwy'r adroddiadau chwe misol—maent yn llawn o haeriadau ac nid ydynt yn llawn iawn o dystiolaeth. Ac rwyf am dynnu sylw—yn fyr iawn—at nifer o'r materion y ceir tystiolaeth gyhoeddus yn eu cylch. Nid yw amseroedd aros wedi gwella ers cyflwyno mesurau arbennig ac nid ydynt ond wedi dangos gwelliannau ar ddechrau 2018, pan gafodd sylw fel problem yn y Cyfarfod Llawn unwaith eto. Mae'r system damweiniau ac achosion brys yn gyson yn perfformio'n waeth na chyfartaledd Cymru o hyd, ac mae perfformiad dau ysbyty sy'n perfformio'n wael yn tynnu oddi ar berfformiad ysbyty da. Mae amseroedd aros canser yn dangos, ar ddechrau mesurau arbennig, fod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr mewn gwirionedd yn perfformio'n well na chyfartaledd Cymru a'i fod bellach yn perfformio'n waeth na chyfartaledd Cymru a bod gostyngiad o 5 y cant yn nifer y meddygon teulu yn ardal Betsi Cadwaladr dros amser, er fy mod yn derbyn yr hyn a ddywedodd y Gweinidog ddoe ynghylch rhoi gwasanaethau amgen a gyflogir yn uniongyrchol gan y bwrdd iechyd lleol ar waith i fynd i'r afael â rhai o'r problemau hynny. Nawr, ymddengys bod y Gweinidog yn mynegi rhywfaint o amheuaeth ynglŷn â hyn, ond rwy'n seilio hyn ar ffigurau sydd ar gael i'r cyhoedd, ac os oes ganddo ffigurau eraill sydd ar gael i'r cyhoedd sy'n dweud rhywbeth arall wrthym—ffigurau eraill nad ydynt ar gael ar gyfer y cyhoedd—rwy'n ei annog i'w datgelu'n gyhoeddus er mwyn inni allu gweld ble mae'r cynnydd honedig a phwy sy'n ei gyflawni.
Ar ôl pedair blynedd, mae angen inni weld bod y Gweinidog hwn yn deall yn iawn pam ei fod yn credu bod sicrhau newid ym mwrdd Betsi Cadwaladr wedi bod mor anodd. Pam y mae mor ddi-ildio? Beth sy'n mynd o'i le yno? Nawr, pe bawn yn clywed gan y Gweinidog heddiw, 'Dyma'r problemau rwy'n eu hwynebu', 'Dyma'r pethau na allaf eu newid', 'Dyma'r pethau sydd eu hangen arnom i sicrhau consensws gwleidyddol, efallai, er mwyn cyflawni a newid', fi fyddai'r person cyntaf i achub ei gam, gan fod Jack Sargeant, wrth gwrs, yn llygad ei le pan ddywed nad oes neb am chwarae unrhyw fath o gêm wleidyddol gyda'r GIG, ond y realiti, wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd, yw bod materion sy'n ymwneud â'r GIG yn wleidyddol iawn: mae'r modd yr ariennir y GIG, y modd y caiff ei reoli, yn wleidyddol iawn, ac yma, yng Nghymru, rydym wedi sefydlu—deddfwyd yn 2009 ar gyfer system a oedd yn atebol i'r Gweinidog. Rwy'n cofio'r Gweinidog ar y pryd, Edwina Hart, yn dweud bod angen i'r penderfyniadau ynglŷn ag iechyd yng Nghymru gael eu gwneud gan y bobl y gall y bobl eu diswyddo. Nawr, ar y pryd, roedd llefarydd y Ceidwadwyr, Jonathan Morgan, o'r farn y dylem barhau i goleddu ymagwedd lai gweithredol. Nid dyna oedd y penderfyniad a wnaeth y lle hwn. Mae'n safbwynt cwbl barchus; nid un a rannwn ar y pryd. Felly, mae'r Gweinidog yn amlwg yn gwbl atebol am hyn, ac mae angen iddo egluro wrthym pam nad yw pethau wedi symud ymlaen.
Nawr, wrth gwrs fod rhywfaint o welliant wedi bod; pe baech wedi gadael y system yn gyfan gwbl ar ei phen ei hun am bedair blynedd heb wneud unrhyw beth o gwbl byddai rhai pobl dda mewn rhai sefyllfaoedd da wedi gallu sicrhau rhywfaint o newid cadarnhaol. Ac wrth gwrs, fel y mae eraill wedi'i ddweud, a rhaid inni gydnabod hyn, ar draws y system honno—a chlywaf hyn bob wythnos gan etholwyr—mae pobl wirioneddol dda ar y rheng flaen sy'n gweithio'n galed iawn. Ceir rhai rheolwyr rheng flaen da iawn hefyd sy'n gwneud pethau arloesol, er enghraifft cydweithredu â gwasanaethau cymdeithasol yng Ngwynedd. Ond ar frig y bwrdd iechyd, mae'n amlwg fod rhywbeth mawr o'i le, ac rwy'n credu bod problem ddiwylliannol yn bodoli.
Tybed faint o ymrwymiad sydd gan yr uwch arweinwyr yn y bwrdd iechyd hwnnw i sicrhau newid. Nawr, mae'n peri pryder i mi nad yw chwech o'r bobl sy'n arwain y bwrdd iechyd—nid ar ochr y bwrdd, ond yn broffesiynol—yn byw yn y wlad hon hyd yn oed, heb sôn am yr ardal y maent yn ei gwasanaethu. Nawr, yn amlwg, ni fyddech am ddechrau gwahaniaethu yn erbyn pobl ar sail ble maent yn byw, ond pan fo gennych ganran mor uchel o'ch tîm rheoli nad effeithir ar eu teuluoedd, ar eu plant, ar eu cymdogion yn uniongyrchol gan y penderfyniadau a wnânt, rwy'n credu ei bod hi'n bosibl fod gennych broblem. Yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, yn aml iawn arferem benodi uwch arweinwyr—rwy'n meddwl yn arbennig am brif weithredwyr awdurdodau lleol—ar y sail, 'Rydym yn eich croesawu o ble bynnag y dewch, ond disgwyliwn i chi ddod yma, disgwyliwn i chi fyw yma, disgwyliwn i chi fuddsoddi yn y gymuned hon'. Ac mae Betsi Cadwaladr yn llawn o uwch arweinwyr nad ydynt wedi gwneud hynny.
Pan ofynnais i'r Gweinidog ddoe a oedd yn credu bod yr uwch arweinwyr yn deall y cymunedau yr oeddent yn eu gwasanaethu, cefais fy siomi'n ddirfawr pan wfftiodd at hynny fel pryder. Ond mae'n ymddangos i fy etholwyr i ac etholwyr cyd-Aelodau eraill fod y penderfyniadau'n cael eu gwneud gan bobl nad ydynt yn deall natur y cymunedau, nad ydynt yn deall y ddaearyddiaeth, ac efallai fod hynny'n rhywbeth sydd wrth wraidd hyn oll.
Rwy'n gweld bod fy amser ar ben, Ddirprwy Lywydd, ac rwyf am ddirwyn fy sylwadau i ben. Ond hoffwn gysylltu fy hun â'r hyn sydd eisoes wedi'i ddweud am yr angen i gael safonau perfformiad ar gyfer rheolwyr, i gael cymwyseddau craidd, i gael cofrestr ar gyfer rheolwyr y GIG y gellir eu tynnu oddi arni, fel y gellir ei wneud i feddygon a nyrsys os nad ydynt yn cyflawni, oherwydd rwy'n credu bod hon yn broblem ddiwylliannol ar draws ein GIG. Rhaid i'r Gweinidog ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am hyn. Os oes arno eisiau ein help, gall ei gael yn sicr, ond fel y mae, mae'n diystyru ein pryder ac nid yw hynny'n ddigon da.