Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 5 Mehefin 2019.
Dylai gofalu am iechyd a lles poblogaeth gogledd Cymru fod yn nod a phwrpas sylfaenol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac rwy'n dyst i'r ffaith, o ran y staff rheng flaen, eu bod yn gweithio'n galed bob dydd gyda'u calonnau a'u meddyliau, yn ceisio cyflawni yn union hynny. Bedair blynedd yn ôl, fodd bynnag, rhoddwyd y bwrdd mewn mesurau arbennig o ganlyniad i fethiannau sylweddol. Ar 8 Mehefin 2015, datganodd ein Prif Weinidog erbyn hyn fod y penderfyniad arwyddocaol hwn yn adlewyrchu pryderon difrifol ac eithriadol am arweinyddiaeth, trefniadau llywodraethu a chynnydd yn y bwrdd iechyd dros beth amser ac y byddai asesiad trwyadl a chytbwys yn digwydd ar feysydd a oedd yn peri pryder er mwyn ffurfio sail i'r camau gweithredu a oedd i'w cymryd o ganlyniad i'r mesurau arbennig hynny.
Rydych chi, Weinidog, wedi llywio'r camau hynny o'ch cyfnod fel Dirprwy Weinidog a'ch datganiad ar 14 Gorffennaf yn 2015 hyd at y ddadl hon heddiw. Bron i 48 mis yw'r cyfnod hwyaf y mae unrhyw sefydliad wedi bod mewn mesurau arbennig yn hanes y GIG. Mae'n ddwbl yr amser yr honnai Vaughan Gething AC yn wreiddiol y byddai'n ei gymryd. Felly, ar ôl 1,460 diwrnod o'ch rheolaeth uniongyrchol, buaswn i a llawer o fy etholwyr a llawer o Aelodau yma heddiw yn y Siambr wedi disgwyl i'r bwrdd iechyd fod yn ôl mewn cyflwr da.
Fodd bynnag, ar ôl 13 o ddatganiadau ysgrifenedig a thri ymchwiliad allanol, mae'r sefyllfa heddiw'n ddychrynllyd o hyd. Mae gwasanaethau iechyd meddwl gogledd Cymru yn dal i fod heb eu hisgyfeirio, ac maent yn ymddangos yn bell iawn o gyrraedd y pwynt hwnnw. Yn frawychus, mae Donna Ockenden wedi dweud nad yw wedi gweld digon o gynnydd, a datgelwyd bod staff yn credu bod y gwasanaethau iechyd meddwl yn mynd tuag yn ôl. Y mis diwethaf yn unig, amlinellodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus—a diolch i'r Cadeirydd a'i dîm am hyn—bryderon allweddol ynghylch darparu gwasanaethau iechyd meddwl y bwrdd, gan gynnwys rhyddhau adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ansensitif, adroddiad a oedd yn gwneud cam â theuluoedd cleifion Tawel Fan, cynnydd annigonol ar weithredu argymhellion adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac adroddiad Ockenden, diffyg ymgysylltu â Chyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru a gohebiaeth gan staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, lle maent hwy, y rheng flaen, yn egluro bod staffio'n waeth, eu bod wedi ymlâdd, ac nad ydynt yn disgwyl newid cadarnhaol yn y dyfodol rhagweladwy. Weinidog, dylech chi—mae'n flin gennyf—fod â chywilydd ynglŷn â'r casgliadau hyn, a'r ffaith bod cynnig Donna Ockenden i helpu—eich bod wedi ei wrthod.
A dweud y gwir, rydych wedi llywyddu dros ddatblygiad meigryn ariannol hefyd. Mae bwrdd Betsi Cadwaladr newydd gofnodi'r diffyg mwyaf o blith holl fyrddau iechyd Cymru ar ddiwedd 2018-19—yr unig fwrdd i gynyddu ei ddyledion yn y cyfnod hwn—ac nid yw ond wedi llwyddo i gyrraedd 85 y cant o'i darged arbedion erbyn mis Mawrth. Mae'n ymddangos bod y cyfrifon ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn cynyddu y tu hwnt i reolaeth, gyda phwysau mawr o bob cyfeiriad: gwariwyd £900,000 ar wyth achos cyfreithiol ym maes iechyd, mae Caerdydd yn mynnu bod y bwrdd yn ad-dalu £1 filiwn am fethu cyrraedd targedau amseroedd aros, ac arweiniodd prinder o staff rheng flaen at wario £34 miliwn ar staff asiantaeth yn 2017-18. Yn amlwg, mae gan y bwrdd iechyd welliannau sylweddol i'w gwneud o hyd er gwaethaf mesurau arbennig.
Mae rheolaeth wael y Gweinidog yn effeithio'n negyddol ar staff, ac rwy'n deall o le da fod eich ymyrraeth yn achosi rhai o'r problemau a geir yno yn awr mewn gwirionedd. Dangosir hynny gan y ffaith bod absenoldeb oherwydd salwch rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2018 yn fwy nag ar gyfer yr un cyfnod yn 2017. Yn anffodus, mae'r sefyllfa'n effeithio'n uniongyrchol ar fy etholwyr. Bron bob dydd, rwy'n cael cwynion newydd ac yn gorfod cael apwyntiadau wythnosol yn awr gyda swyddfa'r cadeirydd—y cadeirydd newydd—sy'n gweithio'n galed iawn i oruchwylio fy nghasgliad o bryderon etholwyr. Rydych chi'n gwybod beth yw'r problemau: amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth nad ydynt wedi gwella dim, y nifer uchaf o gleifion yn aros mwy na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, a bylchau staffio difrifol. Yn amlwg, ni all unrhyw berson rhesymol ond cytuno â chanfyddiadau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod mesurau arbennig wedi dod yn drefn arferol ac nad yw ymyrraeth Llywodraeth Cymru wedi cael fawr o effaith yn ymarferol.
Mae trigolion gogledd Cymru, ac yn sicr fy etholwyr yn Aberconwy a fy nghyd-Aelodau eraill—maent yn haeddu gwell. Rhaid ystyried mai'r gwasanaeth iechyd mewn unrhyw wlad yw ei phrif flaenoriaeth, ac mae'n siomedig iawn na all y Prif Weinidog ei hun fod yn bresennol ar gyfer dadl mor bwysig heddiw. Mae'n ymddangos ein bod yn wynebu 12 mis arall o fesurau arbennig, ac nid oes gennym strategaeth glinigol gynaliadwy ar waith. Mae'n bryd i'r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru gael eu dal yn gyfrifol ar y cyd. Ond rwy'n eich dal chi'n gyfrifol, Weinidog. Fe ategaf bryderon fy nghyd-Aelodau. Peidiwch â difenwi enw Betsi Cadwaladr, ac os gwelwch yn dda, Weinidog, os ydych—. Rydych chi'n ysgwyd eich pen yn awr. Os ydych yn dal i wadu pa mor ddrwg yw pethau, a fyddech cystal â gwneud ffafr â phawb ohonom a rhoi cyfle i rywun a allai—o bosibl—newid y sefyllfa honno. Diolch.