Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 5 Mehefin 2019.
Fel rŷm ni wedi clywed, wrth gwrs, mesur dros dro oedd y mesur o roi bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i mewn i fesurau arbennig i fod. Bedair blynedd yn ddiweddarach, wrth gwrs, maen nhw dal yno. Gallaf ddweud wrthych chi, Gweinidog, dyw trigolion gogledd Cymru bellach ddim yn ystyried y mesur yna fel rhywbeth dros dro, a dyw pobl gogledd Cymru bellach ddim yn ystyried mesurau arbennig yn rhywbeth arbennig o gwbl, oherwydd, fel mae Cyngor Iechyd Cymunedol Gogledd Cymru wedi'i ddweud, mae'r mesurau arbennig erbyn hyn yn normal newydd yng ngogledd Cymru.
Mae'r cyngor iechyd yn credu, a dwi'n cytuno gyda nhw, fod rheolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru o'r bwrdd wedi colli ei effaith. Mae yna ddiffyg hyder ymhlith trigolion y gogledd ynglŷn â'r modd y mae'r Llywodraeth yn ceisio delio â'r sefyllfa yma, ac, yn wir, o ganlyniad i hynny, yng ngallu'r bwrdd iechyd i ddarparu'r gofal y mae'r cyhoedd yn y gogledd yn dymuno ei weld, yn disgwyl ei weld, ac sydd â hawl i'w dderbyn.
Nawr, mae'r normal newydd yma, wrth gwrs, yn cynrychioli argyfwng ariannol parhaus, mae'n cynrychioli problemau recriwtio, methiant i gynllunio'n hirdymor, yn enwedig o safbwynt y gweithlu, gwasanaethau meddygon teulu'n chwalu, gorddibyniaeth ar staff locwm ac asiantaeth, a methiant, wrth gwrs, i ddelio â chwynion mewn modd amserol neu briodol. Yn gynyddol, hefyd—ac mae hwn yn rhywbeth dwi wedi codi fan hyn yn flaenorol—mae yna fwy a mwy o ymwneud y sector breifat â gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru. Dwi wedi codi o'r blaen yr ymgyrch i atal preifateiddio agweddau o'r gwasanaeth dialysis yn Wrecsam ac yn y Trallwng, gan gynnwys trosglwyddo staff o'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol i'r sector breifat, a nawr, wrth gwrs, rŷm ni'n wynebu preifateiddio gwasanaethau fferyllfeydd mewn ysbytai cyffredinol ar draws y gogledd.
Mae pobl yn cwyno bod Donald Trump yn mynd i fod yn fygythiad i breifateiddio elfennau o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru—wel, efallai, weithiau, mae'n rhaid inni edrych yn agosach i adref pan fo'n dod i'r agenda yna. Dwi yn gobeithio bydd gan y Llywodraeth a'r Gweinidog y gonestrwydd a'r gras, pan fyddan nhw, yn y dyfodol, yn condemnio preifateiddio cynyddol, neu breifateiddio'r gwasanaethau iechyd yn Lloegr, i fod yn ymwybodol o'r hyn sydd yn digwydd ar eu watsh nhw o safbwynt gwasanaethau cyffelyb yng Nghymru.
Nawr, dwi'n mynd i gyfeirio at achos un etholwraig i fi sydd yn wraig 90 oed yn byw yn sir y Fflint. Mi aeth hi i'r ysbyty yn ddiweddar iawn ar ôl cwympo yn yr ardd. Mae hi bellach yn ddigon da i fynd adref, ond mae angen peth cymorth arni o gael mynd adref. Mae ei theulu, yn amlwg, eisiau iddi ddod adref i'w chartref ar ôl bod 10 diwrnod bellach yn Ysbyty Glan Clwyd ac, yn fwy diweddar, yn Ysbyty Cymuned Treffynnon, ond does yna ddim pecynnau gofal cartref ar gael er mwyn caniatáu iddi wneud hynny. Mae'r teulu felly'n wynebu cyfyng-gyngor: a ydyn nhw yn ei gadael hi yn yr ysbyty cymunedol lle mae hi'n amlwg yn mynd yn isel ei hysbryd, neu a ydyn nhw'n talu am becyn gofal preifat—dyma ni'r sector breifat eto—sy'n costio cyfanswm o £210 yr wythnos?
Dwi'n tynnu sylw at hyn oherwydd nôl yn 2012, fe gyflwynodd Betsi Cadwaladr becynnau gofal ychwanegol yn y cartref—home enhanced care—rwy'n siŵr y byddwch chi i gyd yn cofio'r HECs, i roi'r acronym. Y bwriad oedd helpu i symud pobl allan o'r ysbytai ac yn ôl i'r gymuned, a'r broliant a wnaed bryd hynny oedd y byddai cleifion yn gallu gweld consultants yn eu cartrefi a byddai hynny'n cymryd lle, wedyn, yr ysbytai cymunedol a oedd yn cael eu cau ar draws y gogledd fel rhan o ailstrwythuro radical a chanoli gwasanaethau ar draws y gogledd. Ond y gwir amdani yw nad yw hyd yn oed gweithwyr cymorth yn gallu ymweld â'r cleifion yn eu cartrefi erbyn hyn, heb sôn am unrhyw un arall. Mae yna ormod o alw am y gwasanaeth a dydyn nhw ddim yn medru ateb y galw yna.
Nawr, nid staff y front line sydd ar fai fan hyn. Fel rŷm ni wedi clywed, maen nhw'n gwneud eu gorau glas er gwaethaf yr amgylchiadau a'r anawsterau. Y drwg yn y caws, dwi'n ofni, yw'r uwch-swyddogion sydd wedi gwneud y penderfyniadau gwael a gwallus yna sydd wedi arwain at y bwrdd yn cyrraedd y pwynt lle mae e, ac sydd wedi arwain at y mesurau arbennig yma. Ac, wrth gwrs, mae un ohonyn nhw wedi ei benodi i fod yn gyfrifol am droi'r bwrdd o gwmpas, sydd yn codi cwestiynau pellach.
Ond, yn wahanol i ddoctoriaid a nyrsys sy'n gwneud camgymeriadau yn eu gwaith ar adegau, does dim modd i reolwyr byrddau iechyd wynebu cael eu hel o'u proffesiwn. Os ydyw e'n iawn i feddygon a nyrsys gael eu taro oddi ar y gofrestr—rŷm ni wedi dweud fel plaid ers blynyddoedd mawr mi ddylai fod hynny'n wir am brif reolwyr hefyd. Yn y gogledd, rŷm ni wedi bod trwy dri phrif weithredwr, tri chadeirydd ac mae yna deimlad o symud y deckchairs tra bo'r llong yn suddo. Yr un peth cyson, wrth gwrs, gydol y cyfnod yna yw'r ffaith mai chi yn flaenorol fel Dirprwy Weinidog oedd yn gyfrifol am redeg dydd i ddydd y gwasanaeth iechyd a'r sefyllfa ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Ac felly, yn lle newid cadeiryddion a phrif weithredwyr, onid y gwir yw mai chi yw'r un ddylai fynd?