Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 5 Mehefin 2019.
Dychmygwch fod yn ifanc yn deffro ar un o'r diwrnodau ysgol olaf ym mis Rhagfyr, adeg pan fydd cyffro a hwyl yn rhedeg drwy'r ysgol fel trydan. Mae'n golygu cyngherddau, gemau a chyfnewid cardiau, ond wedyn rydych chi'n sylweddoli na fyddwch chi'n mynd i mewn y diwrnod hwnnw. Ni fyddwch yn mynd i mewn oherwydd mae'n ddiwrnod siwmper Nadolig, ac nid oes gennych siwmper Nadolig; ni all eich teulu fforddio un.
Datgelodd prosiect ymchwil a gynhaliwyd gan y Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau yng ngogledd-orllewin Lloegr y patrwm hwn o absenoliaeth ymhlith disgyblion difreintiedig ar 14 Rhagfyr y llynedd. Y gwir amdani yw mai dim ond yr enghraifft ddiweddaraf o'r stigma sy'n dod yn sgil tlodi yw hon, ac enghraifft arall o'r modd yr ydym, yn ddifeddwl, yn pentyrru costau anweledig, costau na all pawb eu talu, ar y flwyddyn ysgol gyfartalog. Gobeithio y gellir ychwanegu ymchwil y Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau at yr enghreifftiau niferus iawn a welwn yn ysgolion Cymru heddiw, o ddiwrnodau gwisgo i fyny i dripiau a digwyddiadau ysgol, sydd mewn perygl o danseilio cymaint o'r gwaith da sy'n cael ei wneud mewn meysydd polisi addysg eraill.
Mae'r ddadl heddiw, wrth gwrs, yn ymwneud â set lawer ehangach o ystyriaethau, ond dyma'r gwirioneddau dyddiol syml, torcalonnus a niweidiol yn y pen draw sy'n sail i'r ffigurau y soniwn amdanynt. Nid oes dim yn anochel ynglŷn â thlodi, a hoffwn ddiolch i'r Aelodau eraill sydd wedi cyflwyno'r ddadl amserol a phwysig hon heddiw. Rwy'n llwyr gefnogi'r cynnig ac yn credu'n gryf ei bod yn bryd cael newid sylweddol yn ein hagwedd at dlodi yng Nghymru. Er ei bod wedi dynodi ei bod yn newid cyfeiriad bellach, credaf fod Llywodraeth Cymru yn iawn i fabwysiadu'r targed ar gyfer dileu tlodi plant erbyn 2020, ac rwy'n gresynu at y penderfyniad i'w ddileu. Mae hon yn agenda sy'n mynnu uchelgais. Ond fel y dywedodd Sefydliad Bevan, gyda chynifer o'r sbardunau polisi pwysig heb eu datganoli, nid oedd y targed hwn ond yn rhywbeth y gellid ei gyflawni drwy weithio gyda Llywodraeth y DU a oedd hefyd yn llwyr ymrwymedig i'r uchelgais hwnnw. Yn anffodus, nid yw hynny'n wir ers 2010.
Canlyniad hyn yw bod ffigurau tlodi plant yng Nghymru wedi aros yn eu hunfan ers degawd bellach, a'u bod erbyn hyn wedi dechrau codi mewn gwirionedd—methiant digyffelyb ein model economaidd yn y DU, pris anghyfiawn cyni, magl i genedlaethau'r dyfodol. Y gwirionedd mwyaf creulon o hanes y Ceidwadwyr mewn grym yw bod nifer y marwolaethau y gellir eu hosgoi sy'n gysylltiedig â thlodi, fel yr amlygwyd gan Leanne Wood, wedi codi drwy'r cyfnod o gyni. Er bod cyllidebau'n crebachu, mae'n glod i Lywodraeth Cymru drwy gydol y cyfnod hwn fod diweithdra wedi gostwng, fod y bwlch cyflogaeth â Lloegr wedi cau, a bod cyrhaeddiad disgyblion tlotach yn cael ei flaenoriaethu. Ond fel y dangosodd cyhoeddi'r mynegai cyfle ieuenctid yn ddiweddar, mae yna gosb cod post gyson yng Nghymru sydd yr un fath heddiw â'r hyn a oedd ar ddechrau datganoli. Dangosodd ymchwil gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith fod cyfleoedd addysg a gwaith yn parhau i fod ar eu teneuaf mewn ardaloedd difreintiedig, gyda fy awdurdod lleol fy hun, sef Torfaen, yn isaf ar y rhestr honno.
Felly, mae digon o elfennau o bolisi datganoledig yn galw am eu hailasesu i ychwanegu brys at ein hagenda wrthdlodi. Gobeithiaf heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn cytuno i ailedrych ar ddull o fynd i'r afael â thlodi plant yn benodol, a thlodi yn fwy cyffredinol. Bydd y Prif Weinidog yn gwybod, gan ei fod yn Weinidog cyllid ar y pryd, fod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn feirniadol ynghylch y diffyg eglurder yng nghyllideb y llynedd o ran sut a ble y mae'r Llywodraeth yn canolbwyntio ei hadnoddau mewn perthynas â thlodi. Argymellasom fwy o eglurder ynghylch perchnogaeth weinidogol ar dlodi, strategaeth tlodi plant newydd i adlewyrchu'r newidiadau polisi ers 2015, a chyhoeddi gwybodaeth am gyllidebau yn y dyfodol i ddangos sut yn union y cyflawnir y strategaeth newydd honno a sut y caiff canlyniadau eu gwella.
Sylweddolaf fod awydd yn y Llywodraeth i symud oddi wrth feddylfryd ffatri strategaethau, ac rwy'n cydnabod yr atyniad o wneud tlodi'n fusnes i bawb yn y Llywodraeth, yn hytrach na gwthio'r cyfan i un adran gyda chyllideb fach. Ond y gwir yw, hyd yn hyn, heb y newid sylfaenol yn y ffordd y mae gweddill y Llywodraeth wedi gweithio i wella'r agenda hon, mae diffyg strategaeth glir a pherchnogaeth yn golygu bod methiant yn dod yn norm. Mae pryderon Sefydliad Bevan, Oxfam, Sefydliad Joseph Rowntree a'r comisiynydd plant yn deillio o ddealltwriaeth ddofn o'r agenda hon, ac mae'n bryd inni weithredu ar yr hyn y maent yn ei ddweud wrthym. Ceir 55,000 o blant sy'n byw mewn tlodi nad ydynt yn gymwys i gael pryd ysgol am ddim, maes polisi sydd wedi'i ddatganoli i ni yma. Ac mae hyd yn oed y rhai sy'n gymwys yn wynebu rhwystrau lluosog a diangen. Mae mwy o gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i roi diwedd ar newyn gwyliau—canfyddiad cyson mewn adroddiadau diweddar. Gallwn barhau, ond yr hyn y daw hyn oll yn ôl ato yw'r angen am strategaeth glir ar dlodi wedi'i gyrru gan dri pheth: targedau clir, cyllidebau tryloyw ac arweinyddiaeth weinidogol gref. Fe wyddom pam y mae tlodi plant wedi cynyddu yng Nghymru—degawd o gyni'r Torïaid sy'n gyfrifol am hynny—ond nid yw hynny'n rhoi rhwydd hynt inni wneud dim byd. Yn wir, rhaid i hynny ein herio i wneud mwy byth, a gobeithio y gall y gwaith hwnnw ddechrau heddiw.