Part of Cwestiwn Brys – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 11 Mehefin 2019.
A gaf i ddiolch i Carwyn Jones am ei gwestiynau? Rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd am y ffordd y mae Ford wedi trin y gweithlu. Wrth gwrs, mae'r cyfleuster hwn wedi bod yn gwbl ganolog i economi'r de ers diwedd y 1970au ar ôl ei adeiladu ym 1978 gyda chymorth trethdalwyr i gartrefu'r hyn a alwyd ar y pryd yn 'brosiect Erika', y cydrannau a fyddai'n mynd i adeiladu'r cerbyd penodol hwnnw. Gwariwyd £143 miliwn i gynorthwyo Ford dros y blynyddoedd, a mwy na £60 miliwn ers 2006 yn unig. Fel y dywedodd Carwyn Jones yn gywir, mae'n ergyd drom i'r gymuned gyfan. Ac mewn ymateb iddi, byddwn yn cymryd camau pellach nag y byddem ni fel arfer yn eu cymryd trwy ddull tasglu, a byddaf yn sôn am hynny mewn munud.
Mynegais fy marn yn rymus bod Ford wedi gwneud cam gwael â'r gweithlu a phobl y rhanbarth a'r wlad gyfan wrth wneud y penderfyniad yn y ffordd y gwnaeth hynny, heb roi ystyriaeth briodol i les a llesiant y 1,700 a mwy o bobl sy'n gweithio ar y safle, nac i'r gymuned gyfan, a heb ymgysylltu â Llywodraethau'r DU na Chymru ar ddewisiadau eraill, fel yr oedden nhw wedi bod yn ei wneud tan yn ddiweddar iawn.
Cododd Carwyn Jones y cwestiwn pwysig ynghylch Brexit yn hyn o beth. Gallaf ei sicrhau fy mod i wedi codi'r cwestiwn hwn gyda Ford, a dywedwyd wrthyf er nad hynny oedd y ffactor amlycaf yn eu trafodaethau, ei fod, serch hynny, yn hynod annefnyddiol ac wedi peri iddynt fod yn fwy agored i niwed. Ac roedden nhw'n siarad yn arbennig am y mater yn ymwneud â masnachu rhwydd ar ffiniau a sut y gallai hynny ddod i ben yn arbennig gyda Brexit 'dim cytundeb'. A dim ond edrych yn ôl ar eu neges gyson ers mis Hydref y llynedd sy'n rhaid, pan wnaethant ddweud y byddai Brexit 'dim cytundeb' yn drychinebus. Nawr, rwy'n falch o weld bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, sydd wedi bod o gymorth mawr ers dydd Iau, wedi cadarnhau y bore yma mewn cwestiynau bod cwmnïau yn y sector wedi bod yn gwbl glir—bod angen inni adael yr Undeb Ewropeaidd â bargen sy'n caniatáu inni barhau i fasnachu yn rhwydd. Ac mae'n mynd ymlaen i ddweud am y cyfleoedd a allai fod os gellir sicrhau hynny.
Mae Carwyn Jones hefyd yn codi'r cwestiwn pwysig ynghylch pensiynau. Cefais alwad gynadledda ddoe gydag undebau llafur, gyda'r awdurdod lleol, gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac fe wnaethom gytuno y byddai'n rhaid rhoi cymorth ar unwaith ar ffurf cynghorwyr ariannol i'r gweithlu. A gofynnais hefyd i'r rheoleiddiwr gymryd rhan yn y mater hwn cyn gynted â phosibl. Rydym yn dymuno cadw'r siarcod o Ben-y-bont ar Ogwr, ac felly mae angen cymorth ar unwaith.
Gallaf sicrhau'r Aelod y byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi'r rhai y bydd y penderfyniad hwn yn effeithio arnyn nhw. Fel y dywedais yn gynharach, bydd tair agwedd ar ein dull o weithredu. Byddwn yn canolbwyntio ar y bobl y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw, fel y gwnawn bob amser, gydag ymyriad tasglu, yn edrych ar gyfleoedd ac yn edrych ar eu hanghenion sgiliau. Ond byddwn hefyd yn canolbwyntio'n benodol ar botensial y safle, ac yn archwilio pob opsiwn i ddenu buddsoddiad. A byddwn yn cydweithio â'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yr Adran Masnach Ryngwladol a Swyddfa Cymru i sicrhau gwaith arall.
Fodd bynnag, bydd trydedd elfen i'n gwaith, a fydd yn cynnwys lle. Fy atgofion o dyfu i fyny yn sir y Fflint yn ystod y 1980au ac yn ystod y 1990au sydd wedi llywio'r penderfyniad hwn. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf ar ôl i 8,500 o bobl golli eu swyddi yng ngwaith dur Shotton, roedd arian i'w gael—roedd llawer o geir newydd, ac roedd llawer o siopau manwerthu yn llwyddiannus. Ond, o ganol y 1980au, trwy'r 1990au, a hyd yn oed hyd heddiw, daeth heriau i'r amlwg sydd wedi creithio'r gymuned gyfan honno. Ac ni fyddwn yn caniatáu i Ben-y-bont ar Ogwr gael yr un profiad ag a gafodd Glannau Dyfrdwy, yn anffodus, yn y 1980au a'r 1990au. A dyna pam yr wyf i wedi penderfynu bod yn rhaid inni gael darn penodol o waith, i ystyried sut y gallwn ysgogi economi Pen-y-bont ar Ogwr rhwng nawr a mis Medi 2020, sut y gallwn sefydlogi busnesau sy'n dibynnu cymaint ar Ford, sut y gallwn gefnogi'r gadwyn gyflenwi nid yn unig o fewn y sector moduro, ond hefyd y busnesau bach, canolig a micro niferus sy'n dibynnu ar yr arian y mae Ford yn ei roi i'r gymuned, a sut y gallwn sicrhau bod buddsoddiad y gymuned gyfan yn barod. Nid oes amheuaeth na fydd hyn wedi bod yn ergyd ofnadwy o ran balchder ac urddas y gymuned, ond byddwn yn gweithio ochr yn ochr â'r awdurdod lleol, gyda bargen ddinesig Caerdydd, gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Swyddfa Cymru, gyda phartneriaid eraill, i sicrhau bod cyflogaeth arall ar gael ym Mhen-y-bont ar Ogwr, cyflogaeth o'r ansawdd uchaf, sy'n talu'n dda.