Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 11 Mehefin 2019.
Rwy'n siŵr, Prif Weinidog, ar sail eich sylwadau cynharach, y byddech chi'n cytuno â mi bod coed yn chwarae rhan bwysig yn ein hamgylchedd, nid yn unig o ran eu cyfraniad esthetig i'n cefn gwlad, ond hefyd o ran eu rhinweddau amsugno carbon a'r adnodd economaidd cynaliadwy y maen nhw'n ei gynrychioli. Soniasoch yn gynharach hefyd am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ailblannu coed, ond, yn anffodus, mae'n destun gofid bod Llywodraeth Cymru yn methu'n sylweddol o ran ei thargedau plannu coed—yn wir, diffyg plannu 31,000 hectar ers 2010, a cholled o 18,000 hectar o goed conwydd ers 2001. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wrthdroi'r tuedd arbennig o ddinistriol hwn?