Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 11 Mehefin 2019.
Diolch i Llyr Gruffydd am beth ddywedodd e. Dwi'n cytuno, mae consensws rhwng rhai pleidiau ar lawr y Cynulliad am beth sy'n ein hwynebu ni a'r ffaith y bydd yn rhaid inni gymryd y cyfrifoldebau sydd gyda ni i weithio, fel roedd y Gweinidog Lesley Griffiths wedi dweud y bore yma yn y datganiad ysgrifenedig mae hi wedi'i gyhoeddi. Ces i'r cyfle i siarad pan oedd yr IWA yn lansio eu hadroddiad nhw. Mae lot o bethau diddorol yn yr adroddiad, lot o syniadau rŷn ni eisiau gweithio arnyn nhw gyda'r IWA a phartneriaid eraill ledled Cymru sydd eisiau bod yn uchelgeisiol ar ran beth rŷn ni yma yng Nghymru yn gallu ei wneud i warchod ein dyfodol.