1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Mehefin 2019.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu'r amgylchedd? OAQ54004
Llywydd, mae camau diweddaraf Llywodraeth Cymru ym maes diogelu'r amgylchedd wedi canolbwyntio ar sicrhau llyfr statud sy'n atal unrhyw ddirywiad i safonau amgylcheddol, pe byddai'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rhoddwyd cydsyniad i 29 o offerynnau statudol ar gyfer ymadael â'r DU, a gwnaed wyth offeryn statudol amgylcheddol penodol i Gymru yma yn y Cynulliad Cenedlaethol rhwng mis Hydref 2018 a mis Mehefin eleni.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwyf i wedi cael rhai llythyrau wedi'u hysgrifennu'n dda iawn yn ddiweddar, gan ddisgyblion yn nosbarth Silverbirch yn ysgol gynradd Brynbuga yn fy etholaeth i, sydd wedi bod yn dysgu am nodau byd-eang ac, yn benodol, datgoedwigo. Ysgrifennodd y disgyblion ataf yn bennaf oherwydd eu bod yn arbennig o bryderus am y galw cynyddol am olew palmwydd, sy'n cael ei ddefnyddio mewn bwyd, cynhyrchion cosmetig a chymaint o eitemau cyffredin eraill. Mae ein galw am y cynhyrchion hyn yma yng Nghymru yn arwain yn uniongyrchol at ddinistrio coedwigoedd glaw trofannol i wneud lle i blanhigfeydd, a thrwy hynny'n dinistrio cynefinoedd naturiol ar gyfer bywyd gwyllt, gan gynnwys orang-wtanod.
Roedd y disgyblion yn obeithiol y byddwn yn codi'r materion hyn gyda chi fel Prif Weinidog, ac rwy'n gwneud hynny heddiw. Prif Weinidog, a fyddech chi'n dweud bod y dinasyddion moesegol a hyddysg hyn o ysgolion cynradd Brynbuga wir yn sôn am faterion a ddylai fod yn effeithio ar bob un ohonom ac sy'n berthnasol i ni i gyd? Ac a allwch chi ddweud wrthyn nhw beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i frwydro yn ôl yn erbyn y galw am olew palmwydd ar y naill law ac, yn yr ystyr ehangach, yn erbyn y bygythiad i goedwigoedd ledled y byd?
Diolchaf i Nick Ramsay am y cwestiwn yna a llongyfarchaf y disgyblion hynny yn ysgol gynradd Brynbuga am ysgrifennu ato. Rwy'n falch dros ben bod eu pryderon yn cael eu rhannu ar lawr y Cynulliad Cenedlaethol. Mae pryder am yr amgylchedd yn sicr yn gyfres o bryderon a ysgogir ar sail cenedlaethau. Rydym ni'n gwybod faint o amser y mae pobl ifanc yn ei roi i wneud yn siŵr bod y blaned y bydd yn rhaid iddyn nhw ofalu amdani ar ôl cyrraedd eu stiwardiaeth mewn cyflwr cystal ag y gallwn ni ei sicrhau.
Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gwneud olew palmwydd o ffynonellau anfoesegol yn rhywbeth na ellir ei ddefnyddio pan fyddwn ni'n cytuno ar gontractau economaidd gyda chwmnïau yma yng Nghymru. Bydd yr Aelod yn gwybod bod y pethau yr ydym ni'n eu gwneud i sicrhau ailgoedwigo yma yng Nghymru yn rhan o'r ymdrech gyfrifol ar sail fyd-eang honno y cyfeiriodd ef ati. Rydym ni wedi ymrwymo i blannu o leiaf 2,000 hectar o goed newydd rhwng 2020 a 2030. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y camau ymarferol y byddwn ni'n eu cymryd i greu coedwig genedlaethol newydd yma yng Nghymru.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths gyfres o fuddsoddiadau mewn cynlluniau adfer natur yma yng Nghymru, a bydd y myfyrwyr yn ysgol gynradd Brynbuga yn falch o wybod, rwy'n siŵr, fod cynllun gwerth £1.3 miliwn yn yr arfaeth ar gyfer A Resilient Greater Gwent, a fydd yn cynnwys edrych ar ffyrdd y mae cynefin wedi cael ei ddiraddio yn y gorffennol ac y bydd angen ei adfywio yn y dyfodol. Rwy'n amau, o leiaf, y bydd yr ychwanegiad diweddaraf at yr aelwyd Ramsay, erbyn hyn, wedi cael ei dystysgrif yn dweud wrtho fod coed wedi cael eu plannu yma yng Nghymru ac yn Uganda ar ei ran—
Mae wedi ei fframio.
Wedi ei fframio—wel, rwy'n falch iawn o glywed hynny. Mae hyn yn rhan o 'Cymru sy'n gyfrifol ar lefel byd-eang', yr ydym ni yn ymrwymedig iddo yn rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mi ddes i y prynhawn yma o gyfarfod y grŵp trawsbleidiol dwi'n ei gadeirio ar ynni cynaliadwy, lle clywon ni am ffynonellau buddsoddi posib mewn isadeiledd ynni carbon isel. Hefyd, mi glywon ni eto am waith y Sefydliad Materion Cymreig, yr IWA, ar ailegnïo Cymru—re-energising Wales. Nawr, mae hwnnw'n cynnig llwybr i ddatgarboneiddio ynni yng Nghymru erbyn 2035, a dwi yn teimlo bod yna gonsensws ar draws y pleidiau i weithredu ar yr argymhellion sydd yn yr adroddiad yna. Felly, mi fyddwn i'n gofyn i'r Llywodraeth ystyried gosod hwnna fel sail ar gyfer y gwaith rŷch chi'n mynd i fod yn ei wneud, ac rŷm ni i gyd yn mynd i fod yn cyfrannu ato fe, gobeithio, dros y blynyddoedd nesaf, yn enwedig yn sgil datganiad ysgrifenedig y Gweinidog amgylchedd y bore yma ynglŷn â'r nod o fod yn net zero carbon erbyn 2050.
Felly, gaf i ofyn ichi i symud i'r cyfeiriad yna? Ac os wnewch chi, yna mi gewch chi gefnogaeth yn sicr o'r meinciau yma, yn ogystal, dwi'n siŵr, â meinciau eraill yn y Senedd yma.
Diolch i Llyr Gruffydd am beth ddywedodd e. Dwi'n cytuno, mae consensws rhwng rhai pleidiau ar lawr y Cynulliad am beth sy'n ein hwynebu ni a'r ffaith y bydd yn rhaid inni gymryd y cyfrifoldebau sydd gyda ni i weithio, fel roedd y Gweinidog Lesley Griffiths wedi dweud y bore yma yn y datganiad ysgrifenedig mae hi wedi'i gyhoeddi. Ces i'r cyfle i siarad pan oedd yr IWA yn lansio eu hadroddiad nhw. Mae lot o bethau diddorol yn yr adroddiad, lot o syniadau rŷn ni eisiau gweithio arnyn nhw gyda'r IWA a phartneriaid eraill ledled Cymru sydd eisiau bod yn uchelgeisiol ar ran beth rŷn ni yma yng Nghymru yn gallu ei wneud i warchod ein dyfodol.
Rwy'n siŵr, Prif Weinidog, ar sail eich sylwadau cynharach, y byddech chi'n cytuno â mi bod coed yn chwarae rhan bwysig yn ein hamgylchedd, nid yn unig o ran eu cyfraniad esthetig i'n cefn gwlad, ond hefyd o ran eu rhinweddau amsugno carbon a'r adnodd economaidd cynaliadwy y maen nhw'n ei gynrychioli. Soniasoch yn gynharach hefyd am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ailblannu coed, ond, yn anffodus, mae'n destun gofid bod Llywodraeth Cymru yn methu'n sylweddol o ran ei thargedau plannu coed—yn wir, diffyg plannu 31,000 hectar ers 2010, a cholled o 18,000 hectar o goed conwydd ers 2001. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wrthdroi'r tuedd arbennig o ddinistriol hwn?
Llywydd, rwyf i wedi cydnabod yma ar lawr y Cynulliad mewn trafodaethau blaenorol gydag arweinydd Plaid Cymru nad ydym ni wedi gwneud cystal ag yr oedd angen i ni ei wneud o ran plannu coed yma yng Nghymru. Dyna pam yr amlinellais yr ymrwymiadau newydd yr ydym ni wedi eu gwneud dros y degawd nesaf. Dyna'n rhannol pam yr ydym ni wedi ymrwymo i greu coedwig genedlaethol fel etifeddiaeth i genedlaethau'r dyfodol yma yng Nghymru, ac mae hynny oherwydd yr hyn y mae coetir yn ei wneud o ran bioamrywiaeth, diogelu pridd, rheoli dŵr, yn ogystal â'r holl bosibiliadau eraill y byddai coedwig yn eu cynnig, ym meysydd twristiaeth, cyflogaeth, ymateb yn y gymuned amaethyddol i amodau newydd y byddan nhw'n eu hwynebu yn y dyfodol. Mae llu o resymau pwysig iawn pam mae angen i ni wneud mwy i blannu coed yma yng Nghymru, ac mae'r Llywodraeth hon yn llwyr ymwybodol o'r dadleuon hynny.