Diogelu'r Amgylchedd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 11 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:19, 11 Mehefin 2019

Mi ddes i y prynhawn yma o gyfarfod y grŵp trawsbleidiol dwi'n ei gadeirio ar ynni cynaliadwy, lle clywon ni am ffynonellau buddsoddi posib mewn isadeiledd ynni carbon isel. Hefyd, mi glywon ni eto am waith y Sefydliad Materion Cymreig, yr IWA, ar ailegnïo Cymru—re-energising Wales. Nawr, mae hwnnw'n cynnig llwybr i ddatgarboneiddio ynni yng Nghymru erbyn 2035, a dwi yn teimlo bod yna gonsensws ar draws y pleidiau i weithredu ar yr argymhellion sydd yn yr adroddiad yna. Felly, mi fyddwn i'n gofyn i'r Llywodraeth ystyried gosod hwnna fel sail ar gyfer y gwaith rŷch chi'n mynd i fod yn ei wneud, ac rŷm ni i gyd yn mynd i fod yn cyfrannu ato fe, gobeithio, dros y blynyddoedd nesaf, yn enwedig yn sgil datganiad ysgrifenedig y Gweinidog amgylchedd y bore yma ynglŷn â'r nod o fod yn net zero carbon erbyn 2050.

Felly, gaf i ofyn ichi i symud i'r cyfeiriad yna? Ac os wnewch chi, yna mi gewch chi gefnogaeth yn sicr o'r meinciau yma, yn ogystal, dwi'n siŵr, â meinciau eraill yn y Senedd yma.