Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 11 Mehefin 2019.
Er mwyn dangos ac ailddatgan ein hymrwymiad i'r egwyddorion hyn, rydym yn bwrw ymlaen â gwaith i ystyried dewisiadau i ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Bydd hyn yn dechrau drwy weithredu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yng Nghymru, yn ogystal â gweithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i adolygu a chryfhau rheoliadau Cymru ar gyfer dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
Rydym ni hefyd yn comisiynu ymchwil i archwilio dewisiadau ehangach, gan gynnwys sut y gallem ni ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig, gan gynnwys y confensiwn ar hawliau pobl anabl, yng nghyfraith Cymru. Byddwn yn ymdrin â gwahanol agweddau ar gydraddoldeb a hawliau dynol mewn modd cynhwysol, gan ddefnyddio'r holl dystiolaeth sydd ar gael, gan gynnwys y data o'r arolwg blynyddol o'r boblogaeth ar ethnigrwydd, statws anabledd, statws priodasol a chrefydd sydd wedi'i ryddhau'r bore yma ar wefan StatsCymru. Ac rwy'n disgwyl i'r gwaith hwn gael ei gwblhau erbyn diwedd 2020.
Bydd dechrau'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol—Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010—wrth wraidd y gwaith newydd yr ydym ni'n ei wneud yn y maes hwn. Gwyddom yn rhy dda fod tlodi brawychus yn bodoli ledled Cymru ac yng ngweddill y DU, oherwydd mesurau cyni a diwygio lles gan Lywodraeth y DU, fel y mae rapporteur y Cenhedloedd Unedig, yr Athro Philip Alston, wedi'i nodi mor glir. Roedd dechrau'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, ynghyd â chyflogau byw a theg a gwelliannau mewn caffael, yn cael eu hystyried fel cam cyntaf y gwaith i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol, sef dulliau i drechu tlodi. Hefyd mae angen cymorth ymarferol ar frys ar bobl i roi'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau presennol ar waith, i'w galluogi nhw i ddwyn asiantaethau i gyfrif a cheisio iawn os torrwyd hawliau. Mae'r Prif Weinidog hefyd wedi datgan yn glir ei ymrwymiad i gyflwyno deddfwriaeth i ymgorffori model o bartneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, a chyfnerthu ein gwaith a'n swyddogaethau partneriaeth gymdeithasol o fewn fframwaith statudol newydd.
Rwy'n disgwyl cynnydd cyflym yn ystod y misoedd nesaf gyda'r bwriad o ddechrau'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn ddiweddarach eleni. Byddwn yn ei gwneud hi'n ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru wneud penderfyniadau mewn ffordd sy'n mynd i'r afael â chanlyniadau anghyfartal a achosir gan anfantais economaidd-gymdeithasol. Bydd hyn yn darparu egwyddor ar gyfer ystyried dewisiadau eraill ar gyfer cryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym ni eisoes ei bod hi'n bwysig ein bod yn gwneud y defnydd gorau posib o ddeddfwriaeth a rheoliadau sy'n bodoli eisoes. Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn arf hanfodol, ac rydym ni'n ystyried sut y gellid cryfhau rheoliadau 2011 Cymru. Rydym ni wedi ysgrifennu'n ddiweddar at gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gofyn iddyn nhw fod yn bartneriaid i ni yn y prosiect hwn. Roedd yr ymatebion cychwynnol i fod i gyrraedd ar 31 Mai, i'w dilyn gan ddata o'u hadroddiadau blynyddol ar gyfer 2017-18, ac rydym ni wedi gofyn amdanyn nhw erbyn diwedd mis Mehefin.
Rydym ni'n gweithio'n agos gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i adolygu rheoliadau dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar fylchau cyflog o ran rhyw, anabledd a hil, yn ogystal ag agweddau eraill ar y rheoliadau. Rydym yn cyd-gynnal symposiwm ar 11 Gorffennaf lle edrychir ar hyn yn fanwl. Rwy'n ystyried hyn yn elfen bwysig o'n dull cyffredinol o gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol.
Mae'r comisiwn newydd gyhoeddi cyfres o bapurau briffio yn deillio o'r gwaith a gomisiynwyd ganddynt y llynedd i fonitro cydymffurfiaeth â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yng Nghymru. Maen nhw'n cysylltu â'r holl gyrff cyhoeddus i gyfarfod a thrafod sut y gall y comisiwn gynghori a chefnogi'r sector er mwyn sicrhau y bodlonir rhwymedigaethau ac yr eir i'r afael ag anghydraddoldeb yn effeithiol. Ac rwy'n argymell yn gryf y dylid manteisio ar y cynnig hwn.
Cyhoeddwyd ein fframwaith newydd, o'r enw 'Gweithredu ar anabledd: yr hawl i fyw'n annibynnol', ar gyfer ymgynghoriad fis Hydref diwethaf, a daeth i ben gyda 67 o ymatebion. Mae'r fframwaith wedi'i ddatblygu ers 2017 drwy ymgysylltu â phobl anabl, o dan arweiniad y grŵp llywio byw'n annibynnol, sy'n cynnwys rhanddeiliaid anabledd ac sy'n cael ei gadeirio gan brif weithredwr Anabledd Cymru.
Mae'r fframwaith newydd wedi'i wreiddio yn y model cymdeithasol o anabledd, gan gydnabod bod rhwystrau sefydliadol, agweddol ac amgylcheddol i gydraddoldeb a chynhwysiant, y mae'n rhaid eu dileu fel bod tegwch. Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau i randdeiliaid ledled Cymru, yn edrych ar y model cymdeithasol o anabledd, a fydd yn helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu polisïau a rhaglenni newydd.
Mae ein dull yn parhau'n drawsbynciol o ran yr holl nodweddion gwarchodedig a chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig. Yn benodol, rydym ni wedi ymrwymo i ymgorffori hawliau pobl hŷn yn y ffordd y caiff holl wasanaethau cyhoeddus Cymru eu darparu. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i ni nodi sut i ddefnyddio hawliau fel dull ymarferol o fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail oedran ac anghydraddoldebau, a gwella bywydau pob dydd pob person hŷn. Yn rhan o'n hagenda hawliau dynol, byddaf hefyd yn cyflwyno adroddiad ar y cynnydd a wnaed o ran Teithio Ymlaen, sef ein cynllun gweithredu ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru.
Yng Nghymru, mae'r adolygiad parhaus o gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn canolbwyntio'n fanwl ar y gwahaniaeth mewn cyflogau, ond rydym ni eisoes yn gweithio i gael gwared ar rai o'r rhwystrau. Ymhlith y camau gweithredu mae darparu cymorth gofal plant, creu cyfleoedd hyfforddi, mynd i'r afael â gwahaniaethu a chefnogi menywod i gael gyrfaoedd annhraddodiadol. Mae'r adolygiad yn cydnabod bod ffactorau croestoriadol, gan gynnwys anabledd, hil a thlodi, yn cael effaith fawr ar ganlyniadau bywyd. I'r gwrthwyneb, mae gan bwyslais cryf ar gydraddoldeb rhywiol y potensial i hyrwyddo cydraddoldeb a thegwch i bawb yng Nghymru, gan gynnwys y grwpiau mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas.
Byddaf hefyd yn cyflwyno adroddiad yn fuan ar y cynnydd a wnaed o ganlyniad i Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Croesawaf ganlyniad achos Sally Challen, i gydnabod effaith ddinistriol rheolaeth gymhellol. Yn gynharach eleni, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch bwerus ar y pwnc, o'r enw 'Nid Cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn'.
Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau penodol ac wedi'u targedu i gynyddu amrywiaeth penodiadau cyhoeddus yng Nghymru. Mae strategaeth amrywiaeth yn cael ei datblygu mewn partneriaeth â grwpiau nad ydyn nhw'n cael eu cynrychioli'n ddigonol. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Gwahaniaethu ar sail Hil, cyhoeddais £40,000 o gyllid newydd gan Lywodraeth Cymru fel y gall grwpiau cymunedol pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig nodi Diwrnod Windrush, gan ddathlu cyfraniadau'r genhedlaeth Windrush a phob ymfudwr i gymdeithas, economi a hanes Cymru.
Ar 19 Mehefin 2019, bydd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Cymru'n Cofio a Race Council Cymru, hefyd yn cynnal digwyddiad coffa i nodi canmlwyddiant terfysgoedd hiliol 1919. Yr wythnos nesaf, byddaf hefyd yn adrodd ar gynnydd 'Cenedl o Noddfa—Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches' ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn ystod wythnos y ffoaduriaid. Rwyf hefyd yn ystyried ein glasbrintiau a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar droseddu ymhlith menywod a chyfiawnder ieuenctid fel rhan o'm cenhadaeth i hyrwyddo a diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.
Rwyf wedi gwneud yn glir fy mwriad i roi blaenoriaeth uchel iawn i hyrwyddo a diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Fel y gwelwch chi, mae hyn yn ysgogi amrywiaeth eang o waith mewn cysylltiad â sawl agwedd ar gydraddoldeb. Dirprwy Lywydd, mae'r hyn yr ydym yn ei wneud, ac y byddwn yn ei wneud yn y dyfodol, yn anfon neges gref ynglŷn â phwysigrwydd cydraddoldeb a hawliau dynol i Gymru. Ond, mae canlyniadau'n bwysicach na symbolau. Mae'n hanfodol bod hawliau'n cael eu gweithredu mewn ffordd sy'n rhoi effaith ymarferol iddyn nhw, fel eu bod yn cael effaith wirioneddol a chadarnhaol ar fywydau pobl Cymru.