Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 11 Mehefin 2019.
Diolch, Dirprwy Weinidog. Fel y soniais pan wnaethoch chi fy rhoi ar ben ffordd yn gynharach, rwyf wedi bod allan y prynhawn yma i ail gyfarfod panel rhyngwladol NWAMI, a gynhaliwyd yn adeilad undeb myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Yn wreiddiol Cymdeithas Integreiddio Amlddiwylliannol Gogledd Cymru oedd NWAMI, ond bellach ei deitl yw'r Rhwydwaith dros Ymwybyddiaeth Fyd-eang o Integreiddio Amlddiwylliannol. Darllenwyd datganiadau gennych chi a'r Prif Weinidog yno gan uwch swyddog, na fyddaf yn codi cywilydd arno drwy ei enwi, oni bai eich bod chi'n dymuno i mi wneud hynny, ond fe'u darllenodd yn dda iawn.
Yn fy araith, cyfeiriais at lansio menter gan Lywodraeth y DU y llynedd i adeiladu cymdeithas fwy integredig a chydlynol, y 'Strategaeth Cymunedau Integredig', a ddisgrifiwyd gan yr Athro Cantle, a oedd wedi gweithio o'r blaen gyda Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU, fel:
newid gwirioneddol mewn dull gweithredu lle bydd y Llywodraeth yn cefnogi camau ymarferol i hyrwyddo cydlyniant ac integreiddio.
Mae Cynllun Gweithredu Cymunedau Integredig 2019 yn mynd â strategaeth 2018 Llywodraeth y DU yn ei blaen drwy ddarparu manylion ymarferol am y cynlluniau y mae'n eu datblygu a'u cefnogi. Pa gysylltiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael â hynny, naill ai drwy wahoddiad neu ymyriad rhagweithiol, os o gwbl?
Gwnaeth adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 'A yw Cymru'n Decach?' ar gyfer 2018 gyfres o argymhellion, gan gynnwys cryfhau'r seilwaith hawliau dynol yng Nghymru, gan alw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys cytuniadau'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru ac i sicrhau bod amddiffynfeydd cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu diogelu a'u gwella yn ystod y broses Brexit a thu hwnt. Ac wrth gwrs, yn eich datganiad, gwnaethoch gyfeirio at y broses Brexit.
Roedd y cytundeb ymadael rhwng y DU a Gogledd Iwerddon a'r Undeb Ewropeaidd, nad yw wedi mynd drwy San Steffan, yn datgan bod y DU yn:
sicrhau na fydd unrhyw leihad mewn hawliau, mesurau diogelu a chyfle cyfartal fel y nodir yn y rhan honno o gytundeb 1998 o'r enw Hawliau, Diogelwch a Chyfle Cyfartal yn sgil ymadael â'r Undeb.
Felly, unwaith eto, wrth inni fynd ymlaen—ac rwy'n sylweddoli ein bod mewn sefyllfa o ansicrwydd ac nid wyf eisiau cyflwyno gwleidyddiaeth plaid—ond wrth i ni symud ymlaen, sut byddwch chi'n ymgysylltu ymhellach â Llywodraeth y DU yn y cyd-destun hwnnw?
Cyfeiriasoch at yr angen i gynnwys confensiynau'r Cenhedloedd Unedig a sut y gallai Llywodraeth Cymru wneud hynny, gan gynnwys y confensiwn ar hawliau pobl anabl, yng nghyfraith Cymru. Pan drafodasom hyn yma fis Medi diwethaf, dywedais nad oes rhinwedd mewn ymgorffori'r confensiwn yng nghyfraith Cymru er mwyn cryfhau a hyrwyddo'r hawliau—. Mae'n ddrwg gennyf, y mae rhinwedd. Mae'n ddrwg gennyf:
'mae budd mewn ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yng nghyfraith Cymru er mwyn cryfhau a hyrwyddo hawliau pobl anabl, fel y gwnaeth Llywodraeth Cymru gyda hawliau plant drwy ymgorffori'r confensiwn ar hawliau'r plentyn yng nghyfraith Cymru yn 2011.'
Felly, pa ystyriaeth allech chi ei rhoi i fabwysiadu model tebyg, pan ddywedwch eich bod yn comisiynu ymchwil i archwilio dewisiadau ehangach, neu a oes gennych chi well ffordd nawr o bosib yn eich tyb chi, o edrych ar hyn?
Cyfeiriasoch, a hynny'n briodol, at y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Gwyddom, unwaith eto, fod hyn wedi'i drafod yma heb fod mor bell yn ôl. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn nodi bod Deddf Cymru 2017 wedi rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru weithredu dyletswydd economaidd-gymdeithasol, gan alluogi cyrff cyhoeddus i weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â phrif achos anghydraddoldeb yng Nghymru: tlodi. Yn ei ymateb fis Gorffennaf diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar y materion hyn, felly pa waith a wnaed gyda Llywodraeth y DU a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ystod yr 11 mis dilynol?
Cyfeiriasoch at rapporteur y Cenhedloedd Unedig, yr Athro Philip Alston. Fel y gwyddoch, dywedodd fod Cymru'n wynebu'r gyfradd dlodi gymharol uchaf yn y DU ac nad oedd gan strategaeth newydd Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i Bawb':
bwyslais strategol na chyfrifoldeb gweinidogol dros leihau tlodi, ac nid oes ganddi dargedau perfformiad na dangosyddion cynnydd clir.
Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i ymateb i'r adran yn yr adroddiad hwnnw sydd wedi'i thargedu'n benodol at Lywodraeth Cymru ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru gymryd camau penodol?
Cyfeiriasoch yn briodol at ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, at y gweithredu ar fframwaith hawl anabledd i fyw'n annibynnol a model cymdeithasol o anabledd. Rwyf wedi disgrifio hyn o'r blaen yng nghyd-destun cyd-gynhyrchu, ynghylch gweld pawb fel partneriaid cyfartal mewn gwasanaethau lleol, chwalu'r rhwystrau rhwng pobl sy'n darparu gwasanaethau a'r rhai sy'n eu defnyddio, gan fynd y tu hwnt i fodelau ymgynghori â defnyddwyr gwasanaethau i sicrhau gwell darpariaeth o ran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau eraill i boblogaeth sy'n heneiddio, pobl sy'n wynebu salwch ac anabledd, y rhai sy'n economaidd anweithgar a'r rhai sy'n byw mewn unigedd cymdeithasol. Ond nid wyf eto wedi dod ar draws uwch swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol neu fwrdd iechyd sy'n cyfaddef bodolaeth y materion hyn na Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 na Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 tan y byddaf yn sôn amdanynt wrthynt ac yn eu hatgoffa o'u dyletswyddau a'u cyfrifoldebau. Felly, yn ogystal ag edrych ymhellach ar hyn, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro'r gweithredu ac yn ymyrryd? Nid o reidrwydd beirniadu gyda ffon fawr, ond er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth o weithredu, fel bod y rhai ar loriau uchaf y sefydliadau cyhoeddus hyn yn deall nad yw hyn yn fygythiad, mae hwn yn gyfle iddyn nhw wneud pethau'n well, i wella bywydau, ac os cânt bethau'n iawn, bydd yn eu helpu i reoli eu cyllidebau'n well, hefyd.