Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 11 Mehefin 2019.
Iawn. Dof i ben gyda chwestiwn gan Cymorth i Ferched Cymru. Maen nhw wedi gofyn: a all y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gost yr adolygiad a ariennir yn genedlaethol o'r ddarpariaeth ar gyfer trais domestig a rhywiol a phryd y bydd yr adolygiad a ariennir yn genedlaethol yn ymgysylltu â darparwyr yng Nghymru, ac yn gwneud sylwadau ynghylch pa un a ellid gwario'r arian a ddyrennir i adolygiadau o'r fath yn well ar sicrhau ac ehangu gwasanaethau lleol i fodloni'r galw cynyddol am gymorth yng Nghymru?