Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 11 Mehefin 2019.
Diolch yn fawr iawn i chi, Mark Isherwood, ac fe wnaethoch chi ddweud wrthyf y bore yma eich bod yn mynd i ddigwyddiad ym Mhrifysgol Caerdydd, ac rwy'n sicr y byddai'r datganiad a wnaethpwyd gan y Prif Weinidog a minnau wedi bod yn un i'w groesawu oherwydd, wrth gwrs, rydym ni hefyd yn croesawu'r ffaith bod rhwydwaith Cymdeithas Integreiddio Amlddiwylliannol Gogledd Cymru yn bartner pwysig o ran bwrw ymlaen â'r agenda bwysig hon i gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol.