Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 11 Mehefin 2019.
Diolch ichi am eich datganiad, Dirprwy Weinidog. Rwy'n siŵr bod pob un ohonom ni yn rhannu dymuniad y Llywodraeth i greu Cymru decach a mwy cyfartal. Mae wedi bod yn 70 mlynedd ers mabwysiadu datganiad cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol, ac rydym ni wedi dod yn bell iawn yn y saith degawd diwethaf. Dirprwy Weinidog, rwy'n croesawu'r ffaith bod eich Llywodraeth yn ystyried ymgorffori rhai o gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru. Rwy'n nodi eich bod yn disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn nesaf. A wnewch chi ddweud ar hyn o bryd a ydych yn disgwyl gosod dyletswyddau a amlinellir ym mhob un o gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar Weinidogion Cymru, ac a fyddwch yn ystyried ymestyn y dyletswyddau hynny ar draws y sector cyhoeddus?
Croesawaf y newid i fodel cymdeithasol o anabledd. Dirprwy Weinidog, a wnewch chi egluro sut y mae newidiadau i'r gronfa byw'n annibynnol yn cyd-fynd â fframwaith y Llywodraeth ar anabledd? Rwy'n falch eich bod wedi penderfynu gwreiddio hawliau pobl hŷn ar draws y ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. A ydych yn credu y bydd y cam hwn yn helpu i sicrhau bod hawliau pobl hŷn o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael eu rhoi ar waith ac yn cael eu gwella hefyd, ac a fydd y cam hwn yn sicrhau bod pobl hŷn yn cael yr asesiadau hawliau gofalwyr y mae hawl ganddyn nhw eu cael?
Gan aros gyda phobl ag anabledd, a hyd yn oed y rhai heb anabledd, gyda chau ein gwasanaethau cyhoeddus, cyfleusterau cyhoeddus, mae rhai o'n henoed yn teimlo eu bod yn gaeth i'w cartrefi, felly mae hyn yn arwain at anweithgarwch cymdeithasol. Mae llyfrgelloedd yn cau, ac unwaith eto, dyma oedd corff y gymuned gyfan wrth ddod â phobl at ei gilydd. Felly, tybed sut y gallwn ni ddod â gwasanaethau fel y rhain yn ôl, er mai gwasanaethau a phenderfyniadau llywodraeth leol ydynt, yn aml. Ond rwy'n poeni bod pobl yn gaeth i'w cartrefi, hyd yn oed y rheini sydd â phlant ifanc a theuluoedd, oherwydd y diffyg gwasanaethau cyhoeddus sydd ar gael iddynt. Felly, tybed sut y mae'r rheini sydd ag anabledd hefyd yn mynd i gael eu hystyried o ran y diffyg gwasanaethau cyhoeddus hyn, os gwelwch yn dda, a sut y gallwn ni ymdopi â hyn.
Yn fy rhanbarth i, mae tlodi plant ar raddfa uchel mewn llawer etholaeth ar draws fy rhanbarth, yn cyrraedd 26 y cant yn aml, ac yn sgil tlodi plant a thlodi teuluol daw anghydraddoldeb, diffyg cyfleoedd, a thybed sut y gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd i wella hyn er mwyn i blant, a hyd yn oed teuluoedd, gyrraedd eu llawn botensial. Fel y mae Leanne Wood wedi cyfeirio, mae llawer o blant—. Rwyf wedi cael pobl yn dod ataf i sôn am gael eu cyfeirio at y gofrestr CAMHS, ond mae'r amser aros am ddiagnosis o awtistiaeth neu ADHD mor hir, ac mae teuluoedd yn pryderu eu bod yn aml iawn yn methu ymdopi 24 awr y dydd gyda phlentyn sydd heb gael diagnosis. Felly, tybed a allwn ni wella yn y meysydd hyn, os gwelwch yn iawn.
Diolchaf i'r Dirprwy Weinidog unwaith eto am ei datganiad, ac edrychaf ymlaen at graffu ar ei chynigion manwl ar gyfer gwella cydraddoldeb yn ein cenedl. Diolch yn fawr.