6. Dadl: Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:48 pm ar 11 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 6:48, 11 Mehefin 2019

Roeddwn i'n awyddus, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, i wneud cyfraniad i'r ddadl yma ac i amlygu, a dweud y gwir, y gwaith y mae'r pwyllgor wedi'i wneud, wrth gwrs, ar y mater yma, oherwydd llynedd fe gynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad i asesu'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru, gan ein bod ni, fel nifer o Aelodau yn y Siambr yma, wrth gwrs, yn pryderu mai ychydig iawn o wybodaeth oedd ar gael am beth fyddai'n dod yn eu lle nhw. Nawr, fel pwyllgor fe wnaethon ni gefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru na ddylai Cymru fod ceiniog ar ei cholled ar ôl Brexit a bod sicrhau cyllid ar ôl Brexit, wrth gwrs, yn gwbl hanfodol i Gymru.

Ar hyn o bryd, fel rŷn ni wedi clywed, mae Cymru'n cael y gyfran fwyaf o bell ffordd o gyllid yr Undeb Ewropeaidd y pen, o'i gymharu â'r gwledydd datganoledig eraill a rhanbarthau Lloegr. Roedd hi'n glir o'r dystiolaeth a gawson ni yn ystod yr ymchwiliad y bydd effaith difrifol iawn ar Gymru oni bai fod cyllid yn parhau mewn modd sy'n seiliedig ar anghenion. Mi ddaethon ni i'r casgliad ei bod hi'n hanfodol y dylai Cymru barhau i gael o leiaf yr un faint o gyllid—nid jest yr un faint, ond o leiaf yr un faint o gyllid y byddai wedi ei gael drwy ffynonellau'r Undeb Ewropeaidd pe na bai'r Deyrnas Unedig wedi pleidleisio i adael. Mae'r un mor bwysig sicrhau hefyd, wrth gwrs, fod cyllid yn parhau i gael ei reoli a'i weinyddu yng Nghymru—mae hynny yr un mor bwysig ym marn y pwyllgor.

Ar adeg ein hymchwiliad ni, mi oedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y byddai cronfeydd strwythurol yn cael eu disodli gan gronfa ffyniant gyffredin y Deyrnas Unedig, ond ychydig iawn o fanylion oedd ar gael am sut y byddai’r gronfa hon yn gweithredu. Fe gafodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, felly, ei wahodd i sesiwn dystiolaeth gyda'r pwyllgor, ond fel ŷch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, mi wrthododd y cyfle hwnnw. Roedden ni yn siomedig â’r diffyg ymgysylltiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a bod penderfyniadau allweddol ynghylch sut y byddai cyllid yn cael ei ddyrannu i’r gweinyddiaethau datganoledig eto heb eu gwneud.

Mewn ymateb i’n hadroddiad ni fel pwyllgor, pan gyhoeddon ni ein hadroddiad, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu cynnal ymgynghoriad ar y gronfa ffyniant gyffredin erbyn diwedd 2018. Mae’n siomedig iawn, ac mae'n dweud y cyfan, yn fy marn i, fod hynny dal heb ddigwydd.