Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 12 Mehefin 2019.
Pan ofynnais i chi ddiwedd mis Ionawr, ar ôl cyhoeddiad cyntaf Rehau y gallent fod yn cau'r safle yn Amlwch, fe ateboch chi eich bod yn ystyried arallgyfeirio i gynhyrchion eraill o fewn y grŵp y gellid eu dargyfeirio dros dro neu'n barhaol i'r safle, neu drydydd partïon yn wir. Fe ddywedoch chi hefyd y byddai hyn yn galw am rywfaint o fuddsoddiad, sef yr hyn roedd Llywodraeth Cymru yn gweithio arno'n benodol gyda'r cwmni ar y pryd. Pan gyhoeddodd prif weithredwr Rehau fod y safle'n cau ar 23 Ebrill, dywedodd fod 'ystyriaeth ofalus wedi'i rhoi ar lefel y bwrdd' i ddewisiadau amgen arfaethedig a gyflwynwyd gan y gweithwyr, ond ni fyddent yn ddigonol i sicrhau dyfodol hirdymor y ffatri. Gan roi hynny i gyd at ei gilydd—y cyfeiriad at y ffaith eich bod yn siarad â thrydydd partïon, eich datganiad ar y pryd eich bod yn ystyried buddsoddi, a'r argymhellion gan y gweithwyr eu hunain—pa ystyriaeth a roddir i ddod â'r holl ffactorau hynny at ei gilydd wrth i hyn symud ymlaen?