Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 12 Mehefin 2019.
Mae'n ofid i mi fod y cwmni wedi dewis peidio ag arallgyfeirio, oherwydd hoffwn ailddatgan ein safbwynt yn gynharach yn y flwyddyn, sef ein bod yn barod ac yn fodlon ac yn frwdfrydig ynglŷn â chefnogi'r busnes. Mae'r penderfyniad wedi'i wneud bellach, ac rydym yn awyddus, drwy'r tasglu, drwy'r uned datblygu economaidd ranbarthol, dan arweiniad y prif swyddog rhanbarthol, Gwenllian Roberts, i archwilio'r holl ddewisiadau eraill ar gyfer cyflogi'r rhai yr effeithir arnynt a dulliau amgen o ddefnyddio'r safle. Rydym yn gweithio—. Dylwn ddweud ein bod yn gweithio'n dda iawn gyda'r cwmni i ganfod cyfleoedd amgen. Mae ceisio dod o hyd i gyflogwyr mawr amgen mewn ardal led-wledig yn anodd iawn, ac felly mae angen rhoi sylw ychwanegol i'r posibilrwydd o gefnogi gweithwyr i ddechrau eu busnesau eu hunain, a dyna pam y mae Busnes Cymru yn chwarae rhan annatod yn y cymorth a roddir iddynt.