Rôl Porthladdoedd Cymru ar ôl Brexit

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:51, 12 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am hynny. Fel y gwyddoch, mae cryn dipyn o borthladdoedd yn fy rhanbarth i, ac un o'r cyfleoedd i Gymru os gadawn yr UE fyddai datblygu porthladdoedd rhydd, gan y byddent yn caniatáu i nwyddau gael eu mewnforio i rannau o Gymru, eu storio neu eu cynhyrchu'n gynnyrch gorffenedig cyn eu hallforio heb drethi a thariffau. Wrth gwrs, mae gennym borthladdoedd rhydd yn y DU yn barod. Y llynedd, dywedodd Gweinidog yr economi ei fod wedi gofyn i ardal fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau ystyried creu porthladd rhydd. Fodd bynnag, ym mis Chwefror eleni, fe ddywedoch chi wrth Adam Price ei bod hi'n anodd gweld sut y gallai porthladdoedd rhydd neu ardaloedd rhydd fodoli mewn undeb tollau. Nawr, cadarnhaodd eich Llywodraeth y bydd yn ymgyrchu i aros o fewn yr UE. Felly, a yw hynny'n golygu na ellir ystyried datblygu porthladdoedd rhydd yng Nghymru?