Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 12 Mehefin 2019.
Rydym yn cydnabod manteision posibl porthladdoedd rhydd yn gyffredinol, ond ceir heriau ymarferol, sef yr hyn y cyfeiriais ato yn fy ymateb cynharach, rwy'n credu, sy'n ymwneud â cholli refeniw treth, dadleoli, cynaliadwyedd, ac yn y blaen. Yn amlwg, mae penderfyniadau ynghylch porthladdoedd rhydd a threfniadau tollau yn fwy cyffredinol yn nwylo Llywodraeth y DU. O'n safbwynt ni, y ffordd orau i ddiogelu buddiannau economaidd ein porthladdoedd a'n heconomi yn gyffredinol yw drwy aros yn rhan o undeb tollau, ac os digwydd hynny ar draul gallu datblygu trafodaethau penodol am borthladdoedd rhydd, credaf fod hwnnw'n bris gwerth ei dalu yn y darlun cyffredinol o'r effaith lawn ar ein heconomi.