Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 12 Mehefin 2019.
A gaf fi ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw? Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae wedi symud o safbwynt o ddweud ei fod yn parchu canlyniad y refferendwm i wneud galwad uchel ac eglur yn awr am ei wrthdroi. A gaf fi awgrymu iddo, felly, mai'r math o gwestiwn yr hoffai ei weld ar y papur pleidleisio yw, 'A ydych am barhau yn yr UE neu a ydych am aros yn yr UE?', ac y byddai hyn yn gwbl gyson â barn Mr Juncker, a fynegwyd yn 2015, nad oes modd cael dewis democrataidd yn erbyn y cytuniadau Ewropeaidd, a'r hyn a ddywedodd ar adeg y refferendwm yn Ffrainc ar gytuniad Lisbon sef, 'Os yw'n "ie", awn ymlaen, os yw'n "na", fe fyddwn yn parhau'—mae'r UE yn ei hanfod yn gorff gwrth-ddemocrataidd nad oes ganddo unrhyw ddiddordeb yn safbwyntiau'r bobl, ac mae'n warth fod y Blaid Lafur, sy'n hoffi meddwl amdani ei hun fel plaid y bobl, yn cyd-fynd â'r elît Ewropeaidd pan fo'r mwyafrif o'i haelodau ei hun wedi pleidleisio yn ei erbyn?