Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 12 Mehefin 2019.
Wel, mae'n ofid i mi fod yr Aelod yn dewis mabwysiadu agwedd mor arwynebol at gwestiwn mor bwysig. Mae'n gwbl wir nad oes mandad ar gyfer y math o Brexit 'dim bargen' y mae ef yn ei gefnogi, a dyna rydym yn carlamu tuag ato yn awr. Yn y sefyllfa honno, fel y dywedais wrth Darren Millar yn gynharach, mae'n gwbl anghyfrifol inni beidio â rhoi'r cwestiwn yn ôl i'r bobl. Bydd yn gwybod yn iawn fod y safbwynt rwyf wedi'i argymell yma ar ran y Llywodraeth yn ymgais i weld a allem ddod o hyd i ffurf o Brexit a adlewyrchai'r egwyddorion y cytunwyd arnynt gyda Phlaid Cymru yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Oherwydd anhyblygrwydd y Blaid Geidwadol yn y Senedd, mae hynny wedi bod yn amhosibl, ac mae'n amlwg fod y wlad wedi'i rhannu ynglŷn â sut y datryswn y mater hwn, ac yn yr amgylchiadau hynny, refferendwm yw'r ffordd o ddatrys y cwestiwn hwnnw.