Rôl Porthladdoedd Cymru ar ôl Brexit

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:55, 12 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Ein barn ni yw bod y math o atebion TG y mae'r Aelod yn eu disgrifio yn ei chwestiwn yn atebion hirdymor i hyn yn y bôn. Wrth gwrs, gwyddom fod yna weithgareddau TG ar y gweill i geisio lleddfu rhai o ganlyniadau Brexit o unrhyw fath. Fel y bydd yn gwybod, mae'r rheini'n faterion sy'n amlwg wedi'u hysgogi'n bennaf gan Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, sy'n fater a gadwyd yn ôl i Lywodraeth y DU. Ond rwy'n credu bod y posibilrwydd fod hwnnw'n ateb i'r lefel o aflonyddwch a allai'n hawdd gael ei achosi gan Brexit o unrhyw fath, ac yn arbennig Brexit 'dim bargen', yn ffantasi braidd.