Rôl Porthladdoedd Cymru ar ôl Brexit

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 2:54, 12 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Gwnsler Cyffredinol, yn ôl y newyddion ddoe, mae Comisiwn yr UE yn gweithio ar gynllun i ddefnyddio datrysiadau TG i helpu nwyddau i groesi'r ffin Wyddelig ar ôl Brexit. Rhoddodd Llywodraeth Ffrainc gynlluniau tebyg ar waith yn Calais. Yn wir, cyn belled yn ôl â 2016, lluniodd Senedd yr UE ei hun adroddiad a ddangosai sut y gellir defnyddio ffin glyfar rhwng yr UE a'r DU. Pa asesiadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud o atebion TG, ac a allech gyhoeddi unrhyw baratoadau o'r fath, os oes rhai gennym?