Trwydded Deledu am ddim

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 3:20, 12 Mehefin 2019

Dwi'n cytuno â'r ysbryd tu ôl i'r sylwadau yna, ac yn eu croesawu nhw, ond a siarad yn hollol blaen, dwi ddim yn credu mai fy swydd i fel un o Weinidogion Cymru ydy lobio San Steffan. Fy swydd i ydy dangos eu rhagrith nhw, a dweud bod eu hymddygiad nhw yn gwbl annerbyniol ac yn anghyfiawn i bobl hŷn yng Nghymru ac yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Mae'r ffordd y maen nhw wedi derbyn a defnyddio—[Torri ar draws.] Esgusodwch fi. Dwi ddim yn credu bod modd i chi—[Torri ar draws.] Thank you.

Ac felly, rydw i o'r farn bod y modd y maen nhw wedi defnyddio'r drefn nawdd cymdeithasol, sef credyd cyffredinol, fel adfer math o brawf moddion—rhywbeth rydym ni wedi'i feirniadu yn y lle hwn yn y gorffennol—fel ffordd o brofi bod henoed yn haeddu gallu cael y darlledu heb eu bod nhw'n gorfod talu am drwydded yn ychwanegol, ac yna, wrth wneud hynny, maen nhw wedi tanseilio'r rhyddid oedd i'w gael ar gyfer darlledu cyffredinol ac wedi pwysleisio bod yna ryw berthynas newydd wedi cael ei sefydlu rhwng nawdd cymdeithasol a haeddu gwasanaethau darlledu. Dwi'n meddwl bod hwnnw, hefyd, yn fater y mae angen i ni ei ddatgelu a'i wrthwynebu yn glir.