Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 12 Mehefin 2019.
A fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi fod y penderfyniad hwn yn dor-addewid ar ran y BBC? Ar eu gwefan eu hun ar 6 Gorffennaf 2015, wrth gyfeirio at gytundeb a wnaeth y BBC gyda'r Llywodraeth yn y cyfnod cyn adnewyddu siarter y BBC yn 2017, dywedai y byddai'r BBC, yn talu'r gost o ddarparu trwyddedau teledu am ddim i bobl dros 75 oed, yn gyfnewid am godi ffi'r drwydded yn unol â chwyddiant, ac mae wedi gwneud hynny. Felly, penderfyniad y BBC sydd i'w feirniadu yn hyn o beth.
A fyddai'n cytuno â mi hefyd fod ariannu sefydliad fel y BBC drwy gyfrwng treth y pen ar berchnogion setiau teledu yn ffordd hurt o fynd ati i wneud pethau yn yr unfed ganrif ar hugain? Efallai ei bod hi'n ffordd iawn o'i wneud ar yr adeg y sefydlwyd y BBC, pan oedd yn unig sianel, neu'n wir hyd at y 1950au pan oedd yn un o ddwy yn unig. Ond gan fod cymaint o fathau o adloniant ar gael erbyn hyn, mae'n ffordd hurt i bobl ariannu sefydliad nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb yn ei gwylio. Yn bersonol, nid oes gennyf unrhyw ddiddordeb mewn cyfrannu tuag at becyn cyflog Gary Lineker o £1.8 miliwn y flwyddyn gan y BBC am siarad am beli yn hytrach na'u cicio.