Dyfodol y System Gynllunio

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 18 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:20, 18 Mehefin 2019

Dwi'n siŵr y byddwch chi'n rhannu fy ngofid i ar ôl darllen adroddiad diweddar yr archwilydd cyffredinol ar awdurdodau cynllunio yng Nghymru lle roedd e'n amlygu bod gwasanaethau cynllunio yn cael rhy ychydig o adnoddau ac, yn wir, yn tanberfformio. Roedd e'n dweud yn yr adroddiad bod yr holl wasanaethau cynllunio yng Nghymru wedi gweld cyllidebau yn haneru yn y 10 mlynedd diwethaf ar ôl ystyried chwyddiant. Mae yna ddyletswyddau ychwanegol yn dod i gyfeiriad rhai o'r awdurdodau cynllunio yma hefyd, wrth gwrs, yn sgil y Ddeddf gynllunio. Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn mynd i fod yn destun ymgynghoriad dros yr haf, a hynny yn arwain at gynlluniau datblygu strategol a fydd wedyn yn bwydo i mewn i'r cynlluniau datblygu lleol ar y lefel leol yna. Felly, a wnewch chi ddweud a ydych chi'n rhannu gofidiau yr archwilydd cyffredinol? Ac os ŷch chi, beth ŷch chi'n ei wneud i sicrhau bod gan awdurdodau cynllunio yr adnoddau digonol ar gael iddyn nhw er mwyn delifro eu gwasanaethau yn effeithiol?