Hyrwyddo Hanes Lleol yng Ngogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 18 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:12, 18 Mehefin 2019

Mi fyddwn i'n gwahodd y Prif Weinidog, y tro nesaf mae'n dod i ardal Rhuthun, i yrru heibio Ysgol Pentrecelyn, sydd wedi bod yn paentio ei murlun ei hun yn yr ysgol gyda 'Cofiwch Dryweryn' arno fel rhan o waith hanes Cymru yr ysgol, wrth gwrs. Dwi'n cytuno â'r angen, wrth gwrs, i hyrwyddo mwy o gyfleoedd i ddysgu am hanes Cymru ac, yn wir, hanes lleol. Ond y rhwystredigaeth yn aml iawn, wrth gwrs, yw bod yna ddiffyg adnoddau digonol, yn adnoddau cyfoes proffesiynol sydd ar gael ar ystod digon eang o bynciau yn y cyd-destun hanes Cymru a hanes lleol. Felly, a gaf i ofyn beth yw ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau bod yna adnoddau digonol ar gael ar gyfer bob oedran, er mwyn sicrhau, pan fo'r ewyllys yno i ddarparu'r addysg honno a rhannu'r wybodaeth honno, fod yr adnoddau digonol yno hefyd i gefnogi'r gwaith?