1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Mehefin 2019.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo hanes lleol yng ngogledd Cymru? OAQ54048
Diolchaf i'r Aelod. Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo hanes Cymru yn genedlaethol ac yn lleol. Er enghraifft, mae Cadw yn adrodd straeon Cymru nid yn unig ar y safleoedd y maen nhw'n eu rheoli ond hefyd trwy weithio gyda phartneriaid lleol, fel yr ymddiriedolaethau archeolegol.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol y bydd hi'n 30 mlynedd fis Chwefror nesaf ers llifogydd dinistriol Tywyn, a ddigwyddodd ar hyd arfordir fy etholaeth i ac, yn wir, i mewn i etholaeth gyfagos Dyffryn Clwyd, oherwydd fe wnaethon nhw effeithio ar y Rhyl hefyd. Yn sgil y llifogydd hynny, cafodd 5,000 o bobl eu symud o'r cymunedau a gafodd eu difrodi gan y dŵr hwnnw, a chawsant effaith sylweddol ar yr holl fywydau yr effeithiwyd arnynt. Yn wir, effeithiwyd ar fywydau llawer o'r bobl hynny a oedd yn rhan o'r ymdrechion achub hefyd. A gaf i ofyn a fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymdrechion lleol i goffáu'r llifogydd hynny a pha waith y gallech chi ei wneud i hybu ymwybyddiaeth o berygl llifogydd yn rhan o unrhyw raglen a ddatblygir?
A gaf i ddiolch i Darren Millar am y cwestiwn yna? Rwy'n cofio llifogydd Tywyn yn iawn, a'r effaith aruthrol ar y gymuned leol honno ac, fel y mae Darren Millar wedi ei ddweud, ar bawb a oedd yn ymwneud â'r digwyddiad hwnnw hefyd. Byddaf yn sicr yn edrych i weld sut, drwy'r gwahanol ffyrdd yr ydym ni'n cefnogi digwyddiadau lleol i goffáu materion o bwys gwirioneddol mewn cymunedau lleol, y gallwn ni edrych i weld a allwn ni gefnogi ymdrechion yn ymwneud â llifogydd Tywyn.
Mae gan Gymru hanes maith o fod â diddordeb mewn materion coffáu. Edrychais, wrth i mi fynd i Aberystwyth ddoe, Llywydd, ar yr heneb 'Cofiwch Dryweryn' yno, wedi ei adfer i'w gyflwr blaenorol, rwy'n falch o weld. Bydd yr Aelodau yma'n gwybod, o dan yr amgylchiadau yn ymwneud â'r heneb honno, ei bod wedi cael ei hefelychu mewn llawer o gymunedau ledled Cymru. Felly, yma yng Nghymru, mae gennym ni gysylltiad hir dros ben â'r effaith y mae llifogydd o wahanol fathau yn ei chael ar gymunedau lleol, a chredaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt da iawn am wneud yn siŵr ein bod ni'n meddwl am y materion hynny yn rhan o'n hanesion lleol.
Mi fyddwn i'n gwahodd y Prif Weinidog, y tro nesaf mae'n dod i ardal Rhuthun, i yrru heibio Ysgol Pentrecelyn, sydd wedi bod yn paentio ei murlun ei hun yn yr ysgol gyda 'Cofiwch Dryweryn' arno fel rhan o waith hanes Cymru yr ysgol, wrth gwrs. Dwi'n cytuno â'r angen, wrth gwrs, i hyrwyddo mwy o gyfleoedd i ddysgu am hanes Cymru ac, yn wir, hanes lleol. Ond y rhwystredigaeth yn aml iawn, wrth gwrs, yw bod yna ddiffyg adnoddau digonol, yn adnoddau cyfoes proffesiynol sydd ar gael ar ystod digon eang o bynciau yn y cyd-destun hanes Cymru a hanes lleol. Felly, a gaf i ofyn beth yw ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau bod yna adnoddau digonol ar gael ar gyfer bob oedran, er mwyn sicrhau, pan fo'r ewyllys yno i ddarparu'r addysg honno a rhannu'r wybodaeth honno, fod yr adnoddau digonol yno hefyd i gefnogi'r gwaith?
Wel, Llywydd, dwi'n cytuno; mae'n bwysig i gael yr adnoddau. Dwi'n gwybod bod Cadw yn gwneud lot o waith i greu adnoddau lleol a defnyddio posibiliadau newydd i wneud y wybodaeth yna ar gael i bobl. Pan es i Gonwy, i'r castell yng Nghonwy, yn ddiweddar, fe welais i lot o bobl yn mynd o gwmpas gyda'u ffonau ac yn gweld ar eu ffonau lot o wybodaeth yr oedd Cadw wedi'i chasglu. Nawr, nid oes rhaid iddyn nhw brynu taflenni. Maen nhw'n gallu mynd o gwmpas a gweld y wybodaeth o'u blaenau pan fyddan nhw'n mynd o gwmpas y castell. Mae lot mwy o bethau fel yna yn cael eu creu, yn cael eu creu yn swyddogol gan gyrff fel Cadw, ond mae lot o gymdeithasau lleol hefyd—mae un yn Rhuthun, dwi'n gwybod—sy'n gwneud lot o waith i greu adnoddau i bobl pan fo pobl yn dod i ymweld, ledled Cymru. Dwi'n gwybod hefyd bod y Gweinidog Addysg yn gwneud lot o waith i greu adnoddau yn y cwricwlwm newydd. Gan edrych ymlaen, i fod yn glir, bydd hanes Cymru yn rhan ganolog o'r gwaith rŷm ni'n ei wneud yn yr ysgolion. Mae gyda ni yr adnoddau i gefnogi'r gwaith yna.