Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 18 Mehefin 2019.
Yn sicr, byddwn yn ymuno â'r Aelod i longyfarch Network Rail ac am ddatblygu rhaglen addysg ac ymwybyddiaeth mor arloesol o ddiogelwch ar y rheilffyrdd, sy'n cynnwys pobl ifanc ac sy'n hollbwysig o ran diogelwch ar y rheilffyrdd, a hefyd yn rhoi cyfle iddynt gymryd cyfrifoldeb o ran eu diogelwch eu hunain a diogelwch eu cyfoedion a diogelwch eu cymunedau.