Diogelwch Cymunedol yn Ne-ddwyrain Cymru

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 18 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 2:42, 18 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Un arweinydd sydd wedi gweithio'n ddiflino i hyrwyddo diogelwch cymunedol yn y de-ddwyrain yw Julian Williams. Mae'n ymddeol y mis hwn fel Prif Gwnstabl Heddlu Gwent. Hoffwn ategu sylwadau'r comisiynydd heddlu a throseddu, Jeff Cuthbert. Dywedodd ei fod wedi bod yn arweinydd effeithiol iawn ar Heddlu Gwent ac wedi dangos proffesiynoldeb, wedi'i feddalu â thosturi, bob amser.

Ac rwy'n gwybod y bu ganddo hanes nodedig yn Heddlu De Cymru cyn hynny. Tybed a hoffai'r Gweinidog hefyd gofnodi ei gwerthfawrogiad hi a gwerthfawrogiad y Llywodraeth.