Cyflogau Merched yn Ynys Môn

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 18 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:47, 18 Mehefin 2019

Diolch am yr ateb yna. Mae adroddiad diweddaraf Chwarae Teg ar gyflwr y genedl yn dangos mai yn Ynys Môn mae'r gap mwyaf rhwng cyflogau dynion a merched. Mae'r gap yn Ynys Môn yn 25.5 y cant, sydd yn syfrdanol o uchel, yn enwedig o glywed yn fanna bod hyn i fod yn flaenoriaeth gan y Llywodraeth. Dwi'n mynd i fod yn cadeirio cyfarfod arbennig yn Ynys Môn ym mis Medi, mewn cydweithrediad efo Chwarae Teg, yn edrych ar y mater yma. Ond beth yn union mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn ardaloedd lle mae hyn yn amlwg yn dal i fod yn broblem barhaus? Ac onid ydy'r ffigur yna yn dangos bod y Llywodraeth yma wedi methu yn ei hymgais hyd yma i fynd i'r afael â'r broblem mewn ardaloedd, yn sicr, lle mae'r broblem ar ei mwyaf dwys?