Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru ar 18 Mehefin 2019.
6. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am yr hyfforddiant sydd ar gael i adnabod a mynd i'r afael â rheolaeth drwy orfodaeth? OAQ54086
Rydym ni'n parhau i gefnogi gweithlu'r sector cyhoeddus er mwyn gallu nodi rheolaeth drwy orfodaeth drwy ein fframwaith hyfforddi cenedlaethol. Hefyd, lansiais yr ymgyrch 'Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn' ym mis Ionawr, sy'n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o reolaeth drwy orfodaeth, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Diolch am eich ateb. Cymerais ran fawr mewn gwaith a arweiniodd at gyflwyno'r gyfraith rheolaeth drwy orfodaeth pan roeddwn i yn San Steffan, felly mae hwn yn faes sy'n agos iawn at fy nghalon, ond gweithredu deddfwriaeth sydd bwysicaf, ac mae pryderon yn parhau ynghylch y nifer sy'n manteisio ar hyfforddiant yn y maes hwn. Tan y bydd pob gwasanaeth cyhoeddus yn cael hyfforddiant o'r safon uchaf, rydym ni'n annhebygol o weld newid mewn agweddau tuag at y drosedd niweidiol hon. Er fy mod i'n sylweddoli y bydd rhai elfennau, gan gynnwys plismona, yn faterion a gedwir yn ôl i San Steffan, a gaf i ofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod yr holl ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus perthnasol yn cael hyfforddiant, nid yn unig ar realiti rheolaeth dan orfodaeth, ond yr angen i gyfeirio goroeswyr at gymorth? Tan i'r holl oroeswyr gael hynny, rydym ni'n mynd i weld system lle mae rhai pobl yn mynd i gael eu cosbi gan system lle mae rhai darparwyr yn sylweddoli beth yw'r erchyllterau y maen nhw'n eu dioddef tra nad yw eraill yn sylweddoli.
Wel, diolchaf i Delyth Jewell am y cwestiwn gwirioneddol pwysig iawn hwn, yn enwedig o gofio ein bod ni wedi cael yr achos diweddar, achos Sally Challen, yn rhoi lle blaenllaw i'r pwnc llechwraidd hwn o reolaeth drwy orfodaeth ar newyddion cenedlaethol.
Rwy'n credu, fel y dywedwch, bod hyfforddiant yn allweddol. Mae'n rhan o'n strategaeth genedlaethol. Drwy'r fframwaith hyfforddi cenedlaethol, rydym ni wedi hyfforddi dros 142,000 o weithwyr proffesiynol yng ngweithlu'r sector cyhoeddus yng Nghymru, a hynny ar wahanol lefelau. Mae gennym ni dros 3,000 o weithwyr proffesiynol yn cael eu hyfforddi yn ein hyfforddiant ymyrraeth gynnar ac atal, 'Gofyn a Gweithredu', lle mae adnabod rheolaeth drwy orfodaeth yn agwedd allweddol. Ond mae gan y fframwaith hyfforddi cenedlaethol chwe grŵp gwahanol i sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y rhai sydd agosaf at fenywod sydd mewn perygl yn benodol, yn cyrraedd y gynulleidfa ehangaf o ran grŵp 1, yn codi ymwybyddiaeth o'r ddeddfwriaeth trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig, ac yna'n symud at y gweithwyr proffesiynol hynny sydd â chyswllt mynych â dioddefwyr posibl i'r rhai sy'n arbenigo mewn mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, ac at arweinwyr hefyd. Ar hyn o bryd, rydym ni'n cynllunio gweithdai rhanbarthol ar gyfer arweinwyr sector cyhoeddus—y rhai â chyfrifoldebau comisiynu a chynllunio—ac mae gennym ni gyfres o ffilmiau 'Cryfder mewn Arweinyddiaeth' hefyd, a wyliwyd dros 7,800 o weithiau. Felly, mae hyfforddiant Hyfforddi'r Hyfforddwr wedi cael ei gwblhau gan 20 o weithwyr proffesiynol yn y canolbarth a'r gorllewin.
Rwy'n sylweddoli bod hyn yn ymwneud ag estyn allan at y gweithwyr proffesiynol sydd ar flaen y gad ac yn y rheng flaen o ran gallu mynd i'r afael â'r mater hwn, ac rwy'n falch iawn eich bod chi wedi tynnu ein sylw at hyn i ddangos yr hyn sy'n cael ei wneud o ran y strategaeth genedlaethol yn gweithredu ar ein deddfwriaeth arloesol.
Diolch i’r Dirprwy Weinidog.