Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 18 Mehefin 2019.
Yn sicr, byddwn yn ymuno â chi i gydnabod yr hyn a gyflawnwyd gan brif gwnstabl Heddlu Gwent, ac, yn wir, bydd yn golled fawr. Mae Jeff Cuthbert a'r prif gwnstabl wedi gweithio mor agos gyda'i gilydd ac wedi cael cymaint o effaith o ganlyniad i'r cydweithio agos hwnnw. Rwy'n siŵr y byddai Aelodau eraill yma, mewn gwirionedd, yn hoffi ymuno â mi, fel Gweinidog, ac yn wir, aelodau o Lywodraeth Cymru a'r Prif Weinidog i gydnabod yr hyn y mae wedi'i gyflawni.