Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 18 Mehefin 2019.
O ran eich sylw olaf, wrth gwrs bydd angen hyfforddiant ar gyfer yr holl wasanaethau a'r system i gyd i sicrhau bod pobl yn gyfarwydd â'r system newydd yr ydym ni'n bwriadu ei chyflwyno, ac i fod yn gwbl barod ar ei chyfer er mwyn sicrhau'r budd yr ydym ni'n ei ddymuno i staff a phobl fel ei gilydd.
O ran eich sylw am is-gadeiryddion, credais imi eich clywed yn dweud eich bod eisiau sicrwydd na fydd is-gadeiryddion yn benodiadau gwleidyddol ond y byddant yn benodiadau clinigol. Nid yw is-gadeiryddion yn benodiadau gwleidyddol; maen nhw'n mynd drwy broses briodol o benodiadau cyhoeddus eisoes, a bydd hynny'r un fath ar gyfer is-gadeiryddion ymddiriedolaethau GIG. Ac nid penodiadau clinigol mohonyn nhw chwaith; mae gan is-gadeiryddion swyddogaeth o ran llywodraethu ac arwain, ac rydym ni'n awyddus i reoleiddio hynny gyda'r byrddau iechyd, yn hytrach na rhoi cyfrifoldebau ychwanegol i is-gadeiryddion presennol yr ymddiriedolaethau. Nid yw hynny'n ffordd foddhaol o fwrw ymlaen ac, mewn gwirionedd, mae cefnogaeth eang dros ddymuno gwneud hynny.
O ran eich sylw ynglŷn â newid gwasanaethau: nid oedd y cynghorau iechyd cymuned eu hunain a'r bwrdd cenedlaethol o gynghorau iechyd cymuned yn dadlau dros gadw pŵer i gyfeirio mewn cynigion i newid gwasanaethau. Mewn gwirionedd mae ganddyn nhw ddiddordeb mewn cymryd rhan yn yr agwedd am ymgysylltu parhaus, er mwyn gwneud yn siŵr nad yw hyn yn rhywbeth sydyn sy'n cael ei roi i bobl ag ychydig wythnosau o rybudd, ond y ceir ymgysylltu llawer mwy trylwyr ac eang, dros amser, wrth i gynigion gael eu datblygu. Oherwydd nid yw ein gwasanaeth iechyd a'n system gofal cymdeithasol yn gallu sefyll yn eu hunfan; rhaid cael esblygiad a diwygio cyson. Rwy'n disgwyl diwygio'r canllawiau ar y newid yn y gwasanaeth, a byddwn yn dal i ddisgwyl y bydd ymgynghori ac ymgysylltu â'r corff newydd fydd yn llais i'r dinesydd yn ymwneud â chynigion o ran newid gwasanaethau, a gobeithiaf y gallwn ni, wrth ddiwygio'r canllawiau hynny, ailadrodd hynny a gwneud hynny'n glir, ac rwy'n disgwyl y bydd cwestiwn tebyg yn cael ei ofyn drwy waith craffu'r pwyllgor, felly byddaf yn falch o ailadrodd y pwynt ehangach hwnnw.
Ac i ddychwelyd eto—nid arolygiaeth fydd y corff newydd fydd yn llais i'r dinesydd. Nid oes gan gynghorau iechyd cymuned unrhyw fwriad i fod yn ddewis amgen i swyddogaeth yr arolygiaeth. Dyma sut yr ydym ni'n gwneud yn siŵr bod llais y dinesydd yn cael gwrandawiad priodol, a sut y rhoddir cymorth i bobl yn rhan o hynny o ran eiriolaeth ym mhob agwedd ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol, ond mae'n fwy nag eiriolaeth. Ac yn y Bil, byddwch yn gweld dyletswyddau lle mae'r corff llais y dinesydd yn gofyn am wybodaeth gan ddarparwr iechyd neu ofal cymdeithasol, yna rhaid i bwy bynnag yw'r darparwr, ym mha bynnag faes iechyd neu ofal cymdeithasol, ymateb i gais rhesymol. Felly, mae pwerau yn y Bil i sicrhau bod y corff newydd yn gallu cyflawni ei swyddogaethau, oherwydd rwy'n wirioneddol edrych ar ddiwygio nid distrywio.
Rwy'n wirioneddol obeithio, wrth inni fynd drwy'r Bil hwn, y bydd Aelodau, unwaith eto, yn edrych ar yr hyn sy'n cael ei gynnig ac nid yn rhagdybio, 'mae'n rhaid bod hyn yn beth drwg, a gadewch inni frwydro nerth deng ewin', oherwydd, mewn gwirionedd, ni allwn ni ymestyn pwerau cynghorau iechyd cymuned. Mae angen inni gael corff priodol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn ei gyfanrwydd. Dylem fanteisio ar y cyfle i sicrhau bod ganddo sail annibynnol iawn i'w alluogi i wneud ei waith.
Ond hoffwn ddweud wrth yr Aelod, wrth ddisgrifio gweithgareddau presennol y cynghorau iechyd cymuned mewn gwahanol rannau o Gymru, nad wyf yn gwybod am un ohonyn nhw a fyddai'n fodlon cael ei ddisgrifio fel cyfrwng i roi sêl bendith i'r bwrdd iechyd lleol. Mae gwahanol berthnasoedd, a phan ddônt i roi tystiolaeth, byddwn yn gofyn i'r aelod ailfeddwl am—credaf fy mod yn deall rhywfaint o'r pwynt y mae hi'n ceisio ei wneud—y modd y gwneir hynny mewn gwirionedd.