3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru)

– Senedd Cymru am 3:29 pm ar 18 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:29, 18 Mehefin 2019

Sy'n dod â ni at y datganiad nesaf, sef y datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru). Dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething. 

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Ddoe, cyflwynais y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), ynghyd â'r memorandwm esboniadol, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Rwy'n falch o gael y cyfle hwn i wneud datganiad am y Bil. Mae hybu ansawdd wedi bod yn rhan ganolog ac annatod o GIG Cymru ers amser maith. Cydnabuwyd hyn yn yr adroddiad a gyhoeddwyd yn 2016 gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd uchel ei barch—a adwaenir fel arall, wrth gwrs, fel yr OECD. Mae'r darpariaethau yn y Bil hwn yn adeiladu ar y trefniadau sydd eisoes ar waith i sicrhau gwasanaeth iechyd gwladol sy'n seiliedig ar ansawdd. Mae hyn wedi'i ategu ar hyn o bryd gan y ddyletswydd ansawdd bresennol yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2003. Ond ni allwn ni orffwys ar ein rhwyfau. Mae bob amser lle i ddysgu ac i wneud mwy i sicrhau gwelliant parhaus.

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:30, 18 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Amlygodd yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yr angen i wella profiad ac ansawdd gofal yn barhaus, er mwyn sicrhau bod gennym ni system iechyd a gofal cymdeithasol sydd bob amser yn dysgu a lle clywir llais y dinesydd yn ganolog ac yn amlwg. Cyhoeddais ymateb Llywodraeth Cymru, ein cynllun tymor hir ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, 'Cymru Iachach' ym mis Mehefin y llynedd. Mae'n amlinellu sut y bydd ansawdd yn allweddol i wneud y system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn addas ar gyfer y dyfodol—system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n rhoi canlyniadau da, profiad da i bobl a'r gwerth gorau. Mae ein cynllun yn nodi uchelgeisiau'r Llywodraeth hon i ddod â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd fel y cânt eu cynllunio a'u darparu ar sail anghenion a dewisiadau pobl. Mae ein cynllun yn pwysleisio pwysigrwydd gwella ac ymgysylltu'n barhaus â dinasyddion mewn modd sy'n gwerthfawrogi ac yn galluogi pobl i gyfrannu eu gwybodaeth, eu profiad ac, wrth gwrs, eu dewisiadau.

Mae'r Bil yn gam nesaf ymlaen yn y broses o wella ansawdd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r Bil yn adeiladu ar yr asedau sydd gennym ni eisoes yng Nghymru, i gryfhau a diogelu ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer y dyfodol, gan hwyluso rhoi llais cryfach i ddinasyddion, gwella atebolrwydd gwasanaethau er mwyn darparu gwell profiad, ansawdd gofal gwell a chanlyniadau gwell i bobl yng Nghymru. Mae'r Bil yn cyflwyno newidiadau a fydd yn cryfhau'r ddyletswydd ansawdd bresennol sydd ar gyrff y GIG ac yn ymestyn hyn i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â swyddogaethau'r gwasanaeth iechyd; yn rhoi dyletswydd gonestrwydd sefydliadol ar ddarparwyr gwasanaethau'r GIG, gan ei gwneud hi'n ofynnol iddyn nhw fod yn agored ac yn onest gyda chleifion a defnyddwyr gwasanaeth pan fydd pethau'n mynd o chwith; yn cryfhau llais dinasyddion, drwy ddisodli cynghorau iechyd cymuned â chorff newydd ar gyfer Cymru gyfan a fydd yn rhoi llais i ddinasyddion ac yn cynrychioli buddiannau pobl ym mhob agwedd ar iechyd a gofal cymdeithasol; ac yn galluogi penodi is-gadeiryddion ar gyfer ymddiriedolaethau'r GIG, gan sicrhau eu bod yn gyson â byrddau iechyd.

Mae'r ddyletswydd ansawdd bresennol yn Neddf 2003 wedi llwyddo i roi rhywfaint o bwyslais ar wella ansawdd a datblygu seilwaith. Fodd bynnag, fe'i dehonglwyd mewn ffordd gymharol gul ac arweiniodd at roi sylw ar sicrwydd ansawdd yn hytrach na mynd ati'n rhagweithiol i gynllunio a gwella ansawdd. Mae angen i ansawdd fod yn ehangach na hyn. Rwyf eisiau i ansawdd fod yn ffordd system gyfan o weithio, er mwyn sicrhau gwasanaethau diogel, effeithiol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy'n amserol, yn effeithlon ac yn deg. Rhaid i hynny gynnwys hybu diwylliant o ddysgu. Mae'r Bil yn disodli dyletswydd 2003 â dyletswydd ansawdd ehangach, sy'n cyd-fynd yn well â sut yr ydym ni eisiau i'n cyrff GIG weithio gyda'i gilydd. Bydd yn cryfhau'r camau gweithredu a'r penderfyniadau er mwyn gwella ansawdd ein system gyfan. A bydd y ddyletswydd ansawdd yn cael ei rhoi ar gyrff y GIG ac ar Weinidogion Cymru. Bydd yn sicrhau yr effeithir ar ansawdd gwasanaethau yn ei ystyr ehangaf. Dyma fydd yr ystyriaeth gyntaf wrth wneud penderfyniadau am wasanaethau iechyd.

Yn anochel, mewn system mor eang a chymhleth â'r GIG, bydd pethau weithiau'n mynd o chwith. Bydd y ddyletswydd gonestrwydd yn helpu i sicrhau, pan fydd hyn yn digwydd, bod darparwyr gwasanaethau'r GIG yn agored ac yn onest â phobl yr effeithiwyd arnyn nhw. Mae digwyddiadau diweddar yn hen ardal Cwm Taf wedi dangos inni bwysigrwydd hyn. Bydd y Bil yn helpu i sicrhau bod unigolion yn cael eu cefnogi, bod sefydliadau yn gwneud y peth priodol ac yn defnyddio digwyddiadau o'r fath i ddysgu a gwella.

Ceir tystiolaeth gynyddol bod gan systemau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gwneud yn dda, bobl wrth eu gwraidd, ac y dylai man cychwyn unrhyw benderfyniad ganolbwyntio ar yr hyn sydd orau i'r unigolyn. Mae cyflawni ein huchelgais i wella ansawdd yn golygu gwrando ar lais pobl yng Nghymru a'i werthfawrogi. Bydd creu corff  llais y dinesydd newydd i Gymru gyfan yn cryfhau'r llais hwnnw ym mhob agwedd ar wasanaethau iechyd a chymdeithasol yn genedlaethol, rhanbarthol a lleol. Bydd cryfhau ymgysylltiad y cyhoedd, a chefnogi dinasyddion i gael llais cryf, yn cynyddu dylanwad pobl. O gyfuno hyn gyda gwaith y ddwy arolygiaeth—Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru—bydd yn cefnogi'r ymgyrch dros wasanaethau o safon uwch.

Yn olaf, bydd y gofynion ynghylch is-gadeiryddion ymddiriedolaethau GIG yn cryfhau eu trefniadau llywodraethu ac yn sicrhau eu bod yn gyson â byrddau iechyd lleol. Dim ond un agwedd yw'r Bil hwn ar gyfres o fesurau yr ydym ni'n eu gweithredu yn ein hymgyrch ddiwyro tuag at wella ansawdd iechyd a gofal cymdeithasol. Er enghraifft, byddwn yn bwrw ymlaen â gwaith pellach ar wahân ynghylch y ffordd y caiff penderfyniadau ynghylch newid gwasanaethau eu gwneud yn y GIG ac yn ystyried sut y gellir defnyddio cyfansoddiad byrddau iechyd i gryfhau trefniadau llywodraethu. Rydym ni hefyd yn symud ymlaen gyda'r gwaith i atgyfnerthu rheoleiddio ac arolygu, gan gynnwys gwaith i ystyried sail ddeddfwriaethol AGIC. Yn y tymor byr, rydym ni wedi buddsoddi arian ychwanegol i ddatblygu cynaliadwyedd AGIC yn raddol ac i fod yn barod i ymateb i unrhyw fframwaith deddfwriaethol newydd yn y dyfodol.

Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r Bil hwn i graffu arno. Edrychaf ymlaen at drafod â'r Cynulliad a'i bwyllgorau dros y misoedd i ddod, y Bil hwn a fydd, yn fy marn i, yn sicrhau manteision cadarnhaol i bobl Cymru. Bydd y Bil yn helpu i wireddu ein huchelgais cyffredin i gael system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar ansawdd, sef system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n agored ac yn onest, a lle caiff llais y dinesydd ei glywed yn uchel ac yn glir.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 3:36, 18 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, hoffwn ddiolch ichi am eich datganiad y bore yma—neu'r prynhawn yma—ac am gyflwyno'r manylion pellach am y Bil hwn a gyflwynwyd gennych chi ddoe.

Rwy'n credu bod angen i mi ddechrau drwy ofyn i chi a allwch chi esbonio i ni pam yr ydych chi'n credu bod angen y ddeddfwriaeth hon arnom ni. Oherwydd, wrth gwrs, rydym ni i gyd eisiau cefnogi gwell ansawdd yn ein gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig gyda'r GIG, oherwydd bod hynny'n cael effaith mor uniongyrchol ar unigolyn. Ac rydym ni i gyd yn dymuno cefnogi'r egwyddor o onestrwydd. Fodd bynnag, mae'r ddau nod da iawn hynny wrth gwrs yn cuddio'r mileindra, sef cael gwared ar y cynghorau iechyd cymuned. Byddai angen i'r Ceidwadwyr Cymreig gael sgwrs hir iawn gyda chi dros yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod ynghylch a fyddai hynny mewn gwirionedd o fudd i'r claf ac a fyddai'n gymorth gwirioneddol i atgyfnerthu llais y claf.

Mae naw mlynedd wedi mynd heibio ers cyhoeddi 'Law yn Llaw at Iechyd' ac mae pedair blynedd wedi mynd heibio ers i'n Bwrdd Iechyd hynaf fod mewn mesurau arbennig, ond dim ond nawr mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno unrhyw fath o ddeddfwriaeth neu'n ystyried sut i wella'r safonau ansawdd hynny. Ac os dywedwch chi—fel yr ydych chi wedi dweud yn eich datganiad—fod y pwyslais presennol yn rhy gul, wel, Gweinidog, rydych chi a'ch Llywodraeth wedi cael y rhan orau o ddegawd i gywiro hynny. Felly pam ydych chi'n credu mai deddfu ar ei gyfer fydd yn gwneud y gwahaniaeth, yn hytrach na'r newid mewn diwylliant, sef yr hyn y mae gwir, gwir ei angen arnom ni?

O ran y ddyletswydd gonestrwydd, unwaith eto, credaf fod honno'n egwyddor ddiddorol iawn. Unwaith eto, byddwn eisiau cefnogi hynny ym mhob agwedd ar fywyd. Mae gennyf rywfaint o bryder ynghylch sefydlu gweithgor i ddatblygu canllawiau i benderfynu faint o niwed y mae'n rhaid ei ddioddef cyn i'r ddyletswydd gael ei sbarduno. Ymhle y bydd llais y claf ar y gweithgor hwnnw? Oherwydd, a bod yn blwmp ac yn blaen, os oes unrhyw niwed, dyna ddylai fod y sbardun. Ac mae gennyf bryder yn deillio o'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud, o'ch datganiad, ac o'r dadansoddiad o'r memorandwm esboniadol, y bydd trothwy, y bydd ffon fesur. Ble mae'r ffon fesur honno, a pha mor uchel fydd hi?

Dof yn awr, wrth gwrs, at gynghorau iechyd cymuned, sef, mae'n debyg, y maes sy'n peri'r pryder mwyaf imi. Dyma sy'n peri'r pryder mwyaf imi oherwydd mae popeth mae'r Llywodraeth wedi ei ddweud dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn ymwneud ag adolygiad seneddol, wedi bod yn ymwneud â'r weledigaeth ar gyfer iechyd, wedi bod ynglŷn â grymuso'r claf. Ac eto, yn y bôn, bydd y cynnig hwn yn dileu pob un o'r cynghorau iechyd cymuned lleol—y bobl ar lawr gwlad, y bobl a all gerdded i mewn i ward 2 yn Ysbyty Glangwili, ward 10 yn Ysbyty Llwynhelyg, sy'n mynd i Fronglais, yn mynd i unrhyw ysbyty yng Nghymru, a chael golwg arni mewn gwirionedd. Mae hyn yn mynd i gael gwared ar y bobl leol sy'n gallu gwrando ar bryder sydd gan breswylydd lleol am y gwasanaethau y mae yn eu derbyn. Mae'n mynd i gynnwys y cwbl mewn sefydliad cenedlaethol, cyffredinol—a hwrê, mae hynny'n swnio'n wych—ond, yn anffodus, rydym ni wedi gweld hyn dro ar ôl tro gyda Llywodraeth Cymru, lle nad yw'r cyrff cenedlaethol hyn, yn ymestyn ar hyd a lled Cymru, yn syml yn cyflawni'r hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud. Ac o'r holl bethau y dylai GIG Cymru eu gwneud, dylai fod yn gwrando ar lais y claf, oherwydd mae'n ymwneud â phobl ac mae'n ymwneud â'r cleifion hynny.

Felly, rwy'n wirioneddol bryderus ynghylch y sylw yn eich datganiad am gyfuno hyn gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, oherwydd rydym ni'n gwybod, onid ydym ni, fod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi'i thanariannu. Mae'n dal wedi ei thanariannu. Mae wedi cael llai o arian nag unrhyw arolygiaeth arall yng Nghymru—er enghraifft £3.5 miliwn o'i gymharu â £13 miliwn ar gyfer Arolygiaeth Gofal Cymru a £11.3 miliwn ar gyfer Estyn. Hwn hefyd yw'r unig gorff arolygu o'i fath yn y DU nad yw'n gwbl annibynnol ar y Llywodraeth y mae yno i gadw llygad arni. Mae hynny'n cael ei gadarnhau drwy edrych ar Adolygiad Marks yn 2014, lle soniodd adolygiad Marks eto am y diffyg pwyslais, bod y pwyslais yn rhy gul ac, wrth gwrs, yr holl adroddiadau gwych hyn sy'n cael eu llunio mewn modd adweithiol ac yn diflannu i ebargofiant. Ac rwy'n credu bod hynny'n bwynt allweddol iawn, Gweinidog, oherwydd, wrth gwrs, mae sefydliadau fel AGIC yn ymateb i ddigwyddiad. Maen nhw'n dod i mewn wedyn ac yn dechrau clirio'r llanast. Mae Cynghorau Iechyd Cymuned yn aml iawn ar y rheng flaen ac maen nhw'n gallu ymyrryd ar y dechrau pan fydd problem yn codi yn y lle cyntaf.

Felly, hoffwn ddeall sut yr ydych chi'n gweld y bydd yr AGIC gwan iawn a diddannedd yn gallu cefnogi eich corff cenedlaethol newydd, oherwydd mae'r gwrthwynebiad yn seiliedig ar y gred, os collwn ni ein Cynghorau Iechyd Cymunedol annibynnol, rydym ni'n colli'r gallu i ddwyn ein gwasanaethau iechyd i gyfrif. Ac a siarad yn blaen, roedd y datganiad i'r wasg gwasaidd ar y naw a ryddhawyd y bore yma gan Gonffederasiwn y GIG, yn awgrymu i mi, os nad oedd dim arall, fod y byrddau iechyd yn gorfoleddu a llawenhau, oherwydd bod hyn yn tawelu llais. Nid ail-rymuso llais yw hyn.

Nid wyf yn deall—a byddwn wrth fy modd pe gallech chi esbonio wrthym ni—pam na wnaethoch chi'r penderfyniad i ehangu cylch gwaith y cynghorau iechyd cymuned presennol fel eu bod yn cynnwys gofal cymdeithasol yn ogystal â gofal iechyd, a pham na wnaethoch chi eu hariannu'n briodol, hyd yn oed pe baech yn eu rhoi mewn strwythur a fyddai'n rhoi mwy o gryfder i'r corff ymbarél hwnnw. Oherwydd y maen nhw wedi gwneud gwaith da iawn. Rwy'n gwybod nad yw'n gyson ledled Cymru. Felly, rwyf yn cefnogi'r ddadl ynghylch cysondeb. Ond pan gofiwch chi y cafodd cyngor iechyd cymuned, heb fod yn bell iawn yn ôl, ei fygwth â gwysiad llys am ddwyn ei fwrdd iechyd i gyfrif am ymarfer ymgynghori, yna mae hynny'n dweud wrthyf ble mae'r grym yn hyn o beth mewn gwirionedd. Hoffwn wybod—ac rwyf wedi dal eich llygad, Llywydd dros dro—hoffwn wybod sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod y llais hwnnw yn wirioneddol annibynnol—yn annibynnol arnoch chi, y Llywodraeth, yn annibynnol arnoch chi, y Gweinidog, yn annibynnol ar y byrddau iechyd, ac yn gwasanaethu'r claf. Gan mai dyna eu hunig swyddogaeth, ac rydym ni'n gweld nad yw'r cyrff cenedlaethol hyn yn gwneud hynny ac yn cael eu llyncu gan bartneriaethau rhanbarthol.  

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:43, 18 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am y gyfres o gwestiynau a sylwadau. Mae cefnogaeth eang i'r ddyletswydd ansawdd a'r ddyletswydd gonestrwydd. Roedd yr ymgynghoriadau ar y Papur Gwyrdd a'r Papur Gwyn yn dangos bod cefnogaeth eang. Byddwch yn gwybod am y mater ehangach sy'n ymwneud ag ansawdd; mae llawer o sylwebwyr sy'n meddwl mai dyna'r peth priodol i'w wneud. Cyfeiriais yn fy natganiad at gyngor Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ac, yn wir, mae hynny wedi'i ddilysu gan yr adolygiad seneddol a'r ddyletswydd gonestrwydd y gwyddoch iddynt ddeillio o ymchwiliad Francis i Fwrdd Iechyd Canol Swydd Stafford.

Mae'r pethau hynny, wrth gwrs, yn werth eu gwneud, ac rydym ni yn y sefyllfa hon oherwydd ein bod wedi cael ymgynghoriadau priodol ar ddiwedd y tymor Cynulliad diwethaf. Mae'r Papur Gwyrdd a'n Papur Gwyn yn awr yn barod i gyflwyno cynigion deddfwriaethol. Gwrthodaf unrhyw awgrym, casgliad neu fel arall, fod hyn wedi'i ddal yn ôl yn fwriadol neu, yn wir, bod hyn yn syml yn cuddio malais ynglŷn ag awydd i gael gwared ar lais y claf a chynrychiolaeth cleifion. I'r gwrthwyneb. A phan fydd Aelodau'n edrych ar fanylion y Bil a bwriad y polisi, gobeithiaf y bydd rhai o'r datganiadau a'r cyhuddiadau a wnaethpwyd a'r amheuon a ailadroddir yn rheolaidd yn tewi yn wyneb gwirionedd rhai o'r ffeithiau a realiti'r hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud o ran cryfhau llais dinasyddion ym mhob agwedd ar iechyd a gofal cymdeithasol.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:45, 18 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Fe wnaf i ymdrin â'ch cwestiwn am lefel y niwed cyn i'r ddyletswydd gonestrwydd fod yn berthnasol cyn imi ymdrin â'r sylw am AGIC ac yna corff llais y dinesydd.

Er ein bod yn gosod trothwy, rydym ni'n siarad am fwy na dim ond ychydig o niwed cyn i'r ddyletswydd gonestrwydd fod yn berthnasol. Felly, rydym ni'n edrych mewn gwirionedd ar lefel gymharol isel ac yna ar ddeall sut y byddech chi'n disgrifio'r amrywiaeth honno o amgylchiadau ac yn darparu rhywfaint o arweiniad ar hynny. Dylai hynny gynnwys amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys, wrth gwrs, cynrychiolwyr cleifion a lleisiau cleifion hefyd. Yn sicr does dim awgrym y byddwn ni'n mynd i ystafell yn llawn cyfreithwyr a fydd yn ceisio amddiffyn y GIG rhag unrhyw fath o gŵyn ac i wneud yn siŵr bod y ddyletswydd gonestrwydd yn ddiystyr. Ni fyddai diben deddfu ar ei gyfer a siarad am 'fwy na'r niwed lleiaf' yn sbarduno'r ddyletswydd, pe baem ni wedyn yn penderfynu ein bod yn canfod ffordd o wyrdroi'r cyfan yn llwyr a sicrhau nad oedd yn effeithiol o gwbl. Ac rwy'n gobeithio, unwaith eto, pan ddeuwn ni at fanylion y craffu—ac rwy'n sylweddoli na fyddwch chi wedi darllen drwy'r Bil i gyd mor fanwl ag y byddech yn ei ddymuno a'r memorandwm esboniadol—efallai y byddwn ni'n mynd y tu hwnt i'r man cychwyn.

O ran AGIC, mae'n rhaid imi atgoffa unrhyw wleidydd Ceidwadol yn rheolaidd pan fyddant yn sôn am gyllid: ni allwch chi osgoi canlyniadau cyni. Rwy'n gwybod fod pobl yn griddfan ac yn cwyno amdano ar y seddi Ceidwadol yn y fan yma pan soniwn ni am gyni, ond mae gwir effaith y dewisiadau yr ydym ni wedi'u gwneud yn sicrhau—. [Torri ar draws.] Mae dewisiadau anhygoel o anodd ym mhob un gwasanaeth cyhoeddus o werth. Ac fel Gweinidog Iechyd, dydw i ddim yn gosod y gyllideb ar gyfer AGIC, oherwydd wrth gwrs byddai'n gwbl anghywir imi wneud hynny, oherwydd wedyn fe allech chi ddweud yn eithaf teg, 'rydych chi'n cymryd arian yn fwriadol gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i'w hatal rhag gallu gwneud ei gwaith yn effeithiol.' Es ati yng nghylch diwethaf y gyllideb i symud arian o'r maes iechyd i'r gyllideb llywodraeth leol yn benodol ar gyfer AGIC, i sicrhau fod ganddi'r adnoddau priodol i wneud y gwaith y mae arnom ni eisiau iddi ei wneud. Felly, er bod gen i rywfaint o gydymdeimlad â rhai o'r pwyntiau a wnaethoch chi, nid oes gennyf unrhyw gydymdeimlad ag unrhyw siaradwr Ceidwadol sy'n cwyno am danariannu unrhyw wasanaeth cyhoeddus penodol.

Ac rwy'n meddwl bod cam-ddisgrifio swyddogaeth AGIC yn y sylwadau hefyd, ac rwy'n gobeithio, wrth graffu eto ar y Bil, bod dealltwriaeth gliriach o'r swyddogaethau a'r cyfrifoldebau sydd gan AGIC. Nid corff di-rym mohono—ddim o bell ffordd. Yn fy marn i, ar ôl inni ymdrin â'r pethau eraill yr ydym ni'n bwriadu eu gwneud o ran y ffordd y mae AGIC yn trefnu ac yn cyflawni ei swyddogaethau, byddwch yn gweld eto ein bod yn ceisio sicrhau ei bod hi wedi'i harfogi'n briodol i gyflawni'r swyddogaeth yr ydym ni eisiau iddi ei gwneud a thacluso'r ffordd y mae hi'n ymgymryd â'i gwaith. A bydd hynny'n cynnwys, wrth gwrs, lle'r corff hwnnw o fewn y Llywodraeth a'r tu allan iddi.

Trof, yn awr, at y corff fydd yn rhoi llais i'r dinesydd, y disgwyliaf y clywn ni fwy amdano heddiw, a dim ond i ymdrin â'r amlinelliad o'r hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud yn fwriadol, sef rhoi sail gadarnach i gorff llais y dinesydd ym mhob agwedd ar iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r fframwaith deddfwriaethol sylfaenol ar gyfer cynghorau iechyd cymuned yn golygu mai dim ond ym maes iechyd y gallan nhw weithredu. Wrth i ni fynd ati'n fwriadol i geisio integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, ni allwn ni gael corff newydd sy'n rhoi llais i ddinasyddion ac sy'n rhychwantu iechyd a gofal cymdeithasol heb newid y ddeddfwriaeth. Rydym ni'n mynd i ddisodli'r cynghorau iechyd cymuned gyda chorff newydd sy'n rhoi llais i'r dinesydd ym mhob agwedd ar faes iechyd a gofal cymdeithasol, ac ni fydd corff newydd yn cael ei sefydlu i roi llais i ddinasyddion oni bai a nes ei fod yn barod i wneud hynny, ac ar yr adeg honno bydd y cynghorau'n diflannu ac yn cael eu disodli. Nid ydym ni'n mynd i gael bwlch o flynyddoedd lawer heb ddim corff llais y dinesydd yn bodoli ym maes iechyd.

Ac, wrth i ni symud ymlaen gyda'r corff hwnnw, mae'n bwysig cydnabod y sefyllfa y mae'r cynghorau iechyd cymunedol ynddi erbyn hyn. Mae llawer o sylwadau wedi'u gwneud am golli annibyniaeth, ond mewn gwirionedd, os edrychwch chi ar annibyniaeth nawr, un o'r problemau sydd gennym ni yw bod cynghorau iechyd cymuned yn cael eu cynnal gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys. Maen nhw'n cael eu cynnal gan un o sefydliadau'r GIG. Ni allan nhw gyflogi pobl yn uniongyrchol eu hunain; maen nhw'n dechnegol yn gyflogeion Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac mae hynny'n achosi problemau sylweddol. Ni allan nhw gael eu contractau eu hunain yn eu henw eu hunain, oherwydd eu trefniadau. Os na fyddwn yn eu tynnu allan ac yn eu creu yn gorff ar wahân, fel y mae'r Bil hwn yn bwriadu ei wneud, ni fyddwn yn gallu datrys y mater hwnnw. Ac yn yr un modd, rwyf i, yn rhinwedd fy swydd yn Weinidog, yn penodi hanner yr Aelodau i gynghorau iechyd cymuned ar hyn o bryd. Rwy'n penodi hanner ohonyn nhw'n uniongyrchol. Nid yw hynny ynddo'i hun yn gwneud synnwyr. Rydym ni'n awyddus i gael sefydliad priodol, lle bydd proses benodiadau cyhoeddus ar gyfer y bwrdd, ac yna byddant yn penderfynu pwy fyddant yn eu cyflogi a sut y byddant yn eu sefydlu eu hunain ar sail leol a rhanbarthol. Bydd y broses honno'n cael ei goruchwylio'n briodol gan y comisiynydd penodiadau cyhoeddus, yn union fel y mae gennym ni benodiadau ar gyfer cadeiryddion bwrdd y cynghorau iechyd cymuned nawr. Nid rhywun nad wyf i erioed wedi cyfarfod ag ef erioed yn fy mywyd o'r blaen, ond rhywun sydd wedi dod i'r amlwg fel y person a ddaeth i'r brig yn y broses recriwtio honno. Dyna'r hyn rydym ni'n disgwyl ei weld yn y dyfodol ar gyfer y corff newydd fydd yn llais i'r dinesydd.

Ac o ran ein gallu i wneud yn siwr na fydd colli dylanwad ar lawr gwlad chwaith, byddwn yn cynnal sgwrs fwriadol ynghylch sut i sicrhau nad ydym ni'n colli'r hyn y mae'r cynghorau iechyd cymuned yn ei wneud ar hyn o bryd a'r gwerth a roddir arnynt, yn enwedig ym maes eiriolaeth ac o ran cwynion, ond o ran deall sut y bydd eu swyddogaeth yn cael ei hehangu ar draws meysydd ein sector iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, fydd dim colli staff, colli adnoddau; bydd mwy o adnoddau i'r corff newydd ac, mewn gwirionedd, mae'r corff newydd yn cymharu'n dda iawn â chyrff eraill ledled y DU o ran cyllid y pen.

Ac os yw pobl yn ymwneud yn agored â'r hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud, credaf y byddant yn gweld bod gonestrwydd pan fyddaf yn amlinellu bwriad y polisi ynghylch yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud i ddatrys y problemau sydd gennym ni ar hyn o bryd, a rhaid i hynny olygu diwygio, oherwydd ni ddadleuodd neb o ddifrif ym mhroses y Papur Gwyrdd na'r Papur Gwyn mai dim newid oedd yr ateb. Ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau, pan fyddwn yn craffu, ychydig yn fwy tawel eu meddwl ynghylch y pryderon yr wyf yn cydnabod sydd gan bobl yn gyffredinol am y corff newydd fydd yn llais i'r dinesydd.  

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 3:51, 18 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac am y dogfennau y mae wedi'u darparu inni. Ni fydd ein plaid yn gallu cefnogi'r ddeddfwriaeth fel y mae, ond rydym ni'n gwerthfawrogi rhai o'r egwyddorion y tu ôl iddi, a byddwn yn edrych drwy'r broses graffu i'w chryfhau lle gallwn ni oherwydd dyna fyddai ein dewis, wrth gwrs, yn hytrach na gwrthwynebu.

Sylw byr i ddechrau gyda golwg ar ambell agwedd y gallwn yn amlwg eu cefnogi. Mae ehangu'r corff llais y cleifion i gynnwys gofal yn ogystal ag iechyd yn gwneud llawer o synnwyr i ni; wrth gwrs, mae'n peri i rywun ofyn pam na all rhywun roi'r swyddogaeth honno i'r cynghorau iechyd cymuned rhanbarthol, ond dof yn ôl at hynny mewn munud. Ac mae'n amlwg yn gwneud synnwyr llwyr y dylai'r Gweinidog allu penodi is-gadeiryddion yr ymddiriedolaethau yn yr un modd ag y bydd yn penodi is-gadeiryddion y byrddau iechyd lleol. Gallai hynny, fel y dywedodd y Gweinidog, helpu gwella gwaith craffu.

Os caf i droi yn awr, Llywydd dros dro, at ein pryderon, byddaf yn dechrau gyda'r mater o ddeddfu ar gyfer ansawdd. Mae hyn bob amser wedi fy nharo i braidd yn od, sef y byddech yn tybio na fyddai gennym ni ddim gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru lle nad oeddem yn bwriadu i'r gwasanaethau a oedd i'w darparu fod o'r ansawdd uchaf posib. Ac nid ydym ni ar y meinciau hyn, mewn egwyddor, yn gwrthwynebu'r ddeddfwriaeth honno, ond yn fy marn i mae'n rhaid i ddeddfwriaeth gael grym. Felly, fe hoffwn i ofyn i'r Gweinidog heddiw: a fydd y ddeddfwriaeth hon ar gyfer ansawdd yn cyflwyno system lle mae goblygiadau i reolwyr unigol pan fydd methiant i sicrhau ansawdd?

Wrth gwrs, mae'n llygad ei le pan ddywed yn ei ddatganiad gydag unrhyw sefydliad o faint y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, y bydd pethau'n mynd o chwith weithiau. Pan fydd pethau'n mynd o chwith, gwyddom y gall meddygon a nyrsys gael eu dwyn i gyfrif, ac yn wir, eu diarddel os byddant yn methu â darparu ansawdd y gwasanaeth a diogelwch y gwasanaeth y mae gan eu cleifion yr hawl i'w disgwyl. Felly, a fydd y ddeddfwriaeth hon yn rhoi mwy o rym i'r Gweinidog i ymdrin â rheolwyr pan fyddant yn methu â chyflawni? Rydym ni'n dal i gredu ar yr ochr hon i'r tŷ fod angen cofrestr arnom ni ar gyfer rheolwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a bod angen ffordd i'w diarddel yn union fel y gallwn ni ddiarddel meddygon a nyrsys os methant â pherfformio. Felly, byddai'n dda gennyf glywed gan y Gweinidog heddiw a oes modd yn y ddeddfwriaeth hon deddfu ar gyfer ansawdd er mwyn sicrhau bod yr atebolrwydd unigol hwnnw'n cael ei gyflwyno.

I droi yn awr at gorff llais y dinesydd, hoffwn, os gwnaiff y Llywydd dros dro ganiatáu i mi, ddyfynnu grŵp o gleifion, sy'n rhoi sylwadau ar y ddeddfwriaeth hon:

Mae diddymu'r cynghorau iechyd cymuned yn gwbl groes i resymeg. Yn achos Tawel Fan, y cynghorau iechyd cymuned yn aml oedd yr unig ffynhonnell gefnogol o gymorth a chefnogaeth annibynnol—swyddogaeth yr oeddent yn ymgymryd â hi heb ofn na ffafriaeth. Mae dileu'r hawl i wneud ymweliadau dirybudd mewn difrif yn golygu cael gwared ar graffu diduedd.

Nawr, beth bynnag a wnawn ni gyda'r ddeddfwriaeth hon, gobeithiaf y bydd y Gweinidog heddiw'n ailystyried y cymal hwnnw a fyddai'n dileu'r hawl i ymweld yn ddirybudd. P'un a yw'n gorff cenedlaethol, p'un a ydym yn parhau â mwy o gynghorau iechyd cymuned lleol, mae'n gwbl hanfodol bod y rheini sy'n gyfrifol am eiriol dros y claf yn gallu ymweld ar yn union adeg lle nad oes neb eisiau iddyn nhw wneud hynny. Fel arall, mae perygl y byddan nhw'n ddibwrpas, a gobeithiaf y bydd y Gweinidog, wrth lunio'r ddeddfwriaeth, yn ystyried newid hynny.

Bydd y Gweinidog yn deall, rwy'n siŵr, y pryderon y mae pobl yn eu mynegi y byddai'r corff cenedlaethol newydd hwn yn ymbellhau o'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Dydw i ddim yn credu bod hynny'n anochel; credaf y gellid rhoi sylw i hynny, ond tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym ni heddiw: a yw'n deall bod hynny'n bryder ystyrlon, a pha ystyriaeth y mae wedi'i rhoi eisoes i'r modd y gellid mynd i'r afael â hynny? Wrth gwrs, bydd yn wir, meddai yn ei ymateb i Angela Burns, y bydd yna gynrychiolaeth ar lawr gwlad o hyd, ond bydd y rhai sy'n gyfrifol am y gynrychiolaeth honno yn bell iawn o'r rheng flaen os yw'n gorff cenedlaethol. A bydd angen cryn argyhoeddi arnom ni mai dyma'r ffordd gywir o fynd ati. 

Cyfeiriodd y Gweinidog yn ei ymateb i Angela Burns at y broses benodi, a tybed a all roi sicrwydd pellach inni ynghylch sut y bydd hynny nid yn unig yn annibynnol ond yn cael ei gweld fel proses annibynnol. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae'r Gweinidog yn penodi hanner yr Aelodau'n uniongyrchol, ond mae gan awdurdodau lleol fewnbwn, mae sefydliadau'r trydydd sector yn cyfrannu at hyn, ac mae hynny'n golygu bod pobl yn cael rhyw sicrwydd bod y cynghorau iechyd cymuned presennol yn annibynnol. Nid oes neb, wrth gwrs, yn dweud eu bod yn berffaith. Mae yna faterion, er enghraifft, sy'n ymwneud â chael digon o gapasiti i allu cael cyngor cyfreithiol o'r ansawdd gorau. Credwn y gellid mynd i'r afael â hynny drwy rannu gwasanaethau yn hytrach na chreu un corff newydd, ond gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn cydnabod heddiw fod y pryderon am annibyniaeth yn rhai dilys ac y bydd yn ceisio mynd i'r afael â'r rheini drwy broses y Bil.

Trof yn fyr at Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Rwyf wedi clywed yr hyn a ddywedodd wrth Angela Burns. Rydym ni yn croesawu'r gwaith o ystyried rhoi sail ddeddfwriaethol wahanol i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ond a all y Gweinidog ddweud ychydig wrthym ni heddiw ynglŷn â beth yw'r amserlen ar gyfer y gwaith hwnnw? Oherwydd mae hi'n glir—a byddwn yn rhoi o'r neilltu am y tro y materion ynghylch adnoddau, er bod y rheini'n bwysig, ond mae'n amlwg bod angen i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fod yn fwy amlwg yn annibynnol a bod yn gryfach o ran deddfwriaeth. Tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym ni faint o amser y mae'n credu y bydd yn ei gymryd i gwblhau'r darn hwnnw o waith y mae'n sôn amdano yn ei ddatganiad.

Yn olaf, gan droi at y ddyletswydd gonestrwydd, nawr, unwaith eto, ni fyddai neb yn anghytuno y bydd hynny'n gam ymlaen ac y bydd hynny'n welliant, ond byddwn yn dadlau, Llywydd dros dro, nad yw rhoi'r cyfrifoldeb hwnnw ar gyrff yn ddigonol. Mae'r Gweinidog yn ei ddatganiad yn cyfeirio at y sefyllfa yng Nghwm Taf. Wel, byddai rhoi dyletswydd gonestrwydd ar y corff hwnnw yn enghraifft wych o godi pais ar ôl piso. Gwyddom, yn y sefyllfa honno, naill ai nad oedd rheolwyr Cwm Taf yn gwybod beth oedd yn digwydd, ac os felly roeddent yn anghymwys, neu eu bod yn gwybod ac yn dewis peidio â'i gyhoeddi, ac yn yr achos hwnnw roeddent yn anonest ac yn llwgr. Yn y naill achos neu'r llall, ni allaf weld sut y byddai gosod dyletswydd gonestrwydd gyfreithiol arnynt yn gwneud y mymryn lleiaf o wahaniaeth o ran p'un a ydynt yn gweithredu'n briodol ai peidio. Mae llawer o bethau eraill y mae angen eu gwneud. Credwn fod angen rhoi dyletswydd gonestrwydd ar staff, er mwyn grymuso chwythwyr chwiban. Os oes ganddyn nhw ddyletswydd gyfreithiol a'u bod yn gallu dweud wrth eu rheolwr, 'mae'n rhaid imi sôn am yr hyn yr wyf wedi'i weld gan fod gennyf ddyletswydd gonestrwydd gyfreithiol', gallai hynny gefnogi'r ddyletswydd gonestrwydd gyfreithiol sydd ar y cyrff iechyd, na fyddem yn anghytuno â hi ond nad ydym ni'n teimlo ei bod yn ddigonol.

I gloi fy sylwadau, Llywydd dros dro— gallaf weld eich bod yn edrych arnaf, ac yn gwbl briodol mae'n debyg—mae bwriad y ddeddfwriaeth hon yn amlwg yn dda, ond fel yr arferai un o fy athrawon ysgol ddweud wrthyf pan oeddwn yn ifanc sef bod uffern yn llawn o fwriadau da. Bydd angen inni graffu ar hyn yn fanwl iawn. Ac mae'r Gweinidog eisoes wedi dweud, ac rwy'n ddiolchgar iddo am hyn, y bydd yn croesawu'r gwaith craffu hwnnw. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae gwendidau o ran y ddyletswydd gonestrwydd, dydw i ddim yn gwybod yn union beth yr ydym ni'n mynd i'w gyflawni gyda deddfu ar gyfer ansawdd os nad ydym ni'n gwneud y pethau eraill sydd angen i ni eu gwneud, ac rwyf ymhell o gael fy argyhoeddi y dylai un corff cenedlaethol ddisodli'r cymunedau iechyd cymunedol, y mae, yn ddiau, angen eu cryfhau.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:58, 18 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Unwaith eto, diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Ni fyddaf yn gallu rhoi'r ateb yr ydych chi wedi gofyn amdano heddiw ynglŷn â deddfwriaeth ar gyfer AGIC yn y dyfodol a'r amserlen, oherwydd nid wyf mewn sefyllfa i gyhoeddi rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth ar gyfer y dyfodol, ond mae'r gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod gennym ni sylfaen gadarnach—nid oes angen deddfwriaeth sylfaenol arnom ni ar gyfer rhai agweddau o hynny chwaith. Felly, rwy'n bwriadu gwneud y defnydd gorau o'r pwerau sydd gennym ni eisoes, sy'n rhan o'n her, ac ni fyddaf yn cael fy nargyfeirio yn ormodol i siarad am y ffordd y mae Brexit wedi effeithio ar ein gallu fel Llywodraeth i wneud ystod o bethau eraill, ond mae adnoddau'n cael eu cyfeirio'n fwriadol i'r ddeddfwriaeth sy'n ofynnol er mwyn paratoi ar gyfer y posibilrwydd o ymadael heb gytundeb, a byddwch yn gweld mwy o'r gwaith hwnnw'n digwydd yn y cyfnod cyn mis Hydref. Treuliais oriau lawer yn eistedd wrth ddesg yn edrych ar offerynnau statudol y mae'n rhaid iddyn nhw fod yn barod ac wedi eu paratoi, ac mae hynny'n amser nad yw ein drafftwyr, ein gwasanaethau cyfreithiol, yn ei dreulio ar gyflawni meysydd gwaith pwysig eraill, ac amser Gweinidogion sy'n cael ei dreulio yn gwneud hynny. Pan ddywedaf oriau lawer, rwy'n golygu sawl diwrnod—diwrnodau maith o amser—ac nid oes modd osgoi hynny. Y gwir amdani yw mai'r maes sydd wedi tyfu fwyaf yn y gwasanaeth sifil dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf yw ein cyfreithwyr ni, ac nid wyf yn credu mai dyna'r flaenoriaeth gywir, a dywedaf hynny a minnau'n gyn-gyfreithiwr.

Byddaf yn ymdrin â'ch sylwadau am ansawdd a gonestrwydd, ac yna ceisiaf ymdrin â'r sylwadau a wnaethoch chi am gorff llais y dinesydd. O ran y ddyletswydd ansawdd, credaf, wrth edrych ar y manylion sydd yn y ddeddfwriaeth, y gwelwch ail-fframio bwriadol i'w wneud yn ddyletswydd fwy hollgynhwysol, oherwydd gyda'r dyletswyddau ansawdd a gonestrwydd rydym ni'n ceisio creu rhywfaint o newid diwylliannol. Ceir rhai agweddau mwy anodd yn hynny o beth o ran adrodd, er enghraifft, ynghylch y ffaith bod angen i gyrff iechyd lunio adroddiad blynyddol—i ddisodli datganiad ansawdd presennol ag un mwy estynedig, i ehangu'r amrediad o gyrff iechyd sydd â'r ddyletswydd i lunio adroddiad o'r fath, ac, yn yr un modd, i Weinidogion Cymru. Felly, bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno adroddiad gerbron y Cynulliad bob blwyddyn am y ddyletswydd ansawdd i ddangos sut y dylid cynnwys hynny wedyn ym mhenderfyniadau'r Cabinet ac a oes unrhyw newid yn y canlyniadau yn sgil hynny hefyd. Felly, rwy'n credu y byddwn ni'n cael sgwrs fwy cyflawn i wneud yn siŵr bod hynny wedi'i ymgorffori'n briodol yn ein proses gynllunio, nid dim ond ein rhaglenni sicrhau ansawdd a gwella ansawdd hefyd. Ac mae hyn yn deillio o ddiweddaru'r cyngor a gawsom ni ynghylch yr adolygiad seneddol, gyda'r adolygiad gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd hefyd, i wneud mewn gwirionedd yr hyn yr ydym ni'n ei ddeall ar hyn o bryd yw'r peth priodol i'w wneud, a gobeithiaf, wrth inni fynd drwy'r broses graffu, y bydd yr Aelod ac eraill yn edrych ar yr hyn sy'n cael ei gynnig a'r dystiolaeth ynghylch hynny hefyd.

O ran eich sylw am y ddyletswydd gonestrwydd—unwaith eto, cafwyd cefnogaeth sylweddol yn yr ymgynghoriadau ar y Papur Gwyrdd a'r Papur Gwyn, ac, unwaith eto, mae hyn yn ymwneud â sbarduno rhywfaint o newid diwylliannol i roi dyletswydd ar sefydliadau sy'n ategu'r dyletswyddau proffesiynol sydd gan lawer o'n staff. Oherwydd, mewn gwirionedd, gwelsom os ydych chi'n edrych ar ble mae gofal iechyd wedi mynd o chwith, a bod her ddiwylliannol, systemig yn rhan o hynny, ei fod yn aml oherwydd bod ein staff proffesiynol wedi gwneud adroddiadau, wedi crybwyll pryderon, ac nad ydyn nhw wedi cael eu gweithredu. A dydyn nhw ddim wedi cael eu gweithredu ar lefel sefydliadol, a dyna'r her yr ydym ni'n ei gweld mewn gwirionedd mewn rhan sylweddol o'r hyn sydd wedi digwydd yn hen ardal Cwm Taf. Nawr, dylai'r gofyniad i fod â dyletswydd gonestrwydd mewn corff atgyfnerthu difrifoldeb y pryderon a grybwyllir a'r ddyletswydd i ymateb ac ymdrin â nhw, ac, yn yr un modd, dylai gael effaith ar bennaeth sefydliad, ac ar fyrddau eu hunain, hefyd. Pan fydd yn rhaid iddyn nhw ystyried y ddyletswydd gonestrwydd i ddeall, eto mewn adroddiad blynyddol, sut a phryd y mae hynny wedi'i weithredu, bydd yn ailamlygu nifer y meysydd lle dylai hynny fod wedi digwydd. Ac mae hyn yn rhan o newid diwylliannol yr ydym ni mewn gwirionedd yn ceisio'i gyflwyno ac yn gweld corff llais y dinesydd fel rhan o'r newid diwylliannol hwnnw hefyd. O wybod bod dyletswydd o ran ansawdd a gonestrwydd, credaf y dylai hynny eu helpu yn eu gwaith i sicrhau eu bod yn deall yr hyn sy'n digwydd ym mhob un o'n sefydliadau ac i wneud yn siŵr eu bod yn cynrychioli ac yn eiriol yn briodol dros lais y dinesydd.

Dof yn ôl nawr at y pryderon ynghylch pa mor annibynnol, mewn gwirionedd, fydd y corff llais y dinesydd. Wel, fel y dywedaf, bydd yn fwrdd, drwy broses briodol o benodiadau cyhoeddus, a oruchwylir gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus, a bydd y bwrdd hwnnw wedyn yn gyfrifol am y sefydliad cyfan ledled y wlad, gan gynnwys eu strwythurau lleol a rhanbarthol. Yn hytrach na bod y Llywodraeth yn nodi'n haearnaidd, 'Dyma'r strwythur y mae'n rhaid ichi ei gael', bydd yn rhaid iddo amlinellu hynny. Bydd dyletswydd arno i nodi yn ei gynllun gwaith blynyddol sut y mae'n bwriadu ymgymryd â'i ddyletswyddau. Yna, bydd yn darparu adroddiad blynyddol ac yna cynllun ar gyfer y flwyddyn i ddod hefyd. Felly, bydd eglurder a chraffu gwirioneddol ar y gallu i graffu ar y corff hwnnw i weld lle'r ydym ni wedi ymgymryd â'r gweithredu hwn, sut y mae'n cyflawni ei genhadaeth ledled y wlad, yn hytrach na Gweinidog yn y Llywodraeth yn y ddeddfwriaeth yn nodi'r strwythur sefydliadol y mae'n rhaid iddo ei gael. Ond byddwn yn sicr yn disgwyl i'r corff hwnnw gael pwyslais lleol a rhanbarthol priodol hefyd. Ond mater i'r corff fydd penderfynu.

Ac o ran ymweliadau—edrychwch, mae hon yn her ynglŷn â'r ffin rhwng corff llais y dinesydd a lle mae'r arolygiaeth yn cynnal arolygiadau priodol, ond yr ymweliadau, y deallwn fod y cynghorau iechyd cymuned yn eu gwerthfawrogi a sut yr ymgymerir â nhw'n briodol—. Ac rwyf yn disgwyl gallu darparu canllawiau ynglŷn â hynny i amlinellu pwerau a swyddogaethau, ond rhan o hyn yw—wrth inni ddisgwyl cyflwyno system newydd, gan ein bod yn disgwyl cael dull gweithredu mwy integredig tuag at iechyd a gofal cymdeithasol, bydd llawer o'r gwaith y byddwn ni yn ei arsylwi mewn cartrefi pobl. Oherwydd nad oes modd cael pŵer syml i fynnu mynediad i ble bynnag y mae gofal yn digwydd, oherwydd os wyf yn eistedd yn fy ystafell fyw, boed hynny'n iechyd neu'n ofal cymdeithasol, ni ddylai trydydd parti allu dweud, 'Mae arnaf angen cael mynediad i'ch cartref', boed y cartref hwnnw'n dŷ teras neu yn gartref gofal preswyl. Felly, mae her o ran gwneud yn siŵr bod gennym ni ddyletswyddau a chyfrifoldebau sy'n cydnabod sut mae gofal yn cael ei ddarparu. Rwyf eisiau canfod ateb i hynny, a bydd gennyf ddiddordeb gwirioneddol yn y sylwadau y mae'n rhaid i'r Aelodau eu gwneud a'r dystiolaeth a roddir yng Nghyfnod 1, i feddwl sut yr ydym ni'n gwneud yn siŵr ac yn llunio ffordd ddefnyddiol o sicrhau bod y ddyletswydd yn bodoli ac i wneud yn siŵr y gall cynghorau iechyd cymuned a'r corff newydd fydd yn llais i ddinasyddion ymgymryd â'u swyddogaeth ac y gallant gefnogi'r dinesydd i sicrhau bod llais y dinesydd yn cael ei glywed a'i barchu'n ddiffuant.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 4:04, 18 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich datganiad, Gweinidog, yn ogystal â'ch datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ddoe ynglŷn â'r Bil. Rhaid imi gyfaddef, nid oedd 24 awr yn amser hir iawn i amsugno'r memorandwm esboniadol, ond mae gennyf ddigon o fanylion i gael hanfod y ddadl.

Gweinidog, fel yr wyf wedi dweud wrthych chi yn y gorffennol, rwyf yn derbyn nad oedd popeth yn fêl i gyd gyda'r cynghorau iechyd cymuned, fodd bynnag, teimlaf fod angen diwygio ac nid distrywio llwyr. Er nad oedd rhai cynghorau iechyd cymuned yn gweithio yn ôl y bwriad, roedd cynghorau iechyd cymuned eraill, yn enwedig yn y gogledd, mewn gwirionedd yn eiriolwyr glew dros y cleifion. A derbyniaf nad oedd pob cyngor iechyd yn gweithredu fel hyn, ac yn aml yn gwneud dim mwy na rhoi sêl bendith ar benderfyniadau'r byrddau iechyd lleol, ond mater yn ymwneud â chapasiti ac annibyniaeth oedd hyn.

Gyda rhai newidiadau strwythurol a'u diwygio i fod yn gorff cenedlaethol gyda phwyllgorau rhanbarth, gallem fod wedi cryfhau llais y claf. A dyma yw amcan yr ymarfer, onid e? Gwella llais y claf a'i gryfhau. Yn hytrach, mae gennym ni Fil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) sy'n mygu llais y claf.

Gweinidog, a allwch chi egluro pam y bu ichi ddileu'r gallu i'r corff newydd fydd yn rhoi llais i'r dinesydd wneud ymweliadau arolygu â wardiau ysbytai a herio newidiadau i wasanaethau? Ni fydd y corff newydd hwn ond mor gryf â'r bobl sy'n ei wasanaethu. Gweinidog, mae eich Memorandwm Esboniadol i'r Bil yn sôn am annog sylfaen wirfoddoli fwy amrywiol. Felly, pa brosesau a fyddwch yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod y gwirfoddolwyr hyn yn cael digon o hyfforddiant i'w galluogi i herio awdurdod, i sefyll fel llais cryf, gwirioneddol annibynnol a gwleidyddol niwtral ar gyfer cleifion? I'r perwyl hwnnw, sylwaf eich bod yn cynnwys is-gadeiryddion ymddiriedolaethau ysbytai. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod yr is-gadeiryddion hyn yn benodiadau clinigol yn hytrach na gwleidyddol?

Er bod gennyf bryderon difrifol ynghylch llawer o'r Bil hwn, rwyf yn croesawu'r ddyletswydd gonestrwydd; mae'n hen bryd ei chael. Mae wedi bod tua phum mlynedd ers i adolygiad Evans alw am ddiwylliant o beidio â rhoi bai. Fodd bynnag, fel y noda Conffederasiwn y GIG, mae angen mwy o eglurder ynghylch yr hyn y mae'r ddyletswydd hon yn ei olygu mewn gwirionedd a sut y bydd yn cyd-fynd â pholisïau presennol. Pa swyddogaeth fydd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru wrth ddatblygu'r ddyletswydd a chyflwyno hyfforddiant i bob aelod o staff?

Diolch ichi unwaith eto, Gweinidog. Edrychaf ymlaen at y craffu manwl. Byddaf yn gweithio gydag Aelodau o bob rhan o'r Siambr hon i wella'r Bil hwn. Diolch yn fawr.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:08, 18 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

O ran eich sylw olaf, wrth gwrs bydd angen hyfforddiant ar gyfer yr holl wasanaethau a'r system i gyd i sicrhau bod pobl yn gyfarwydd â'r system newydd yr ydym ni'n bwriadu ei chyflwyno, ac i fod yn gwbl barod ar ei chyfer er mwyn sicrhau'r budd yr ydym ni'n ei ddymuno i staff a phobl fel ei gilydd.

O ran eich sylw am is-gadeiryddion, credais imi eich clywed yn dweud eich bod eisiau sicrwydd na fydd is-gadeiryddion yn benodiadau gwleidyddol ond y byddant yn benodiadau clinigol. Nid yw is-gadeiryddion yn benodiadau gwleidyddol; maen nhw'n mynd drwy broses briodol o benodiadau cyhoeddus eisoes, a bydd hynny'r un fath ar gyfer is-gadeiryddion ymddiriedolaethau GIG. Ac nid penodiadau clinigol mohonyn nhw chwaith; mae gan is-gadeiryddion swyddogaeth o ran llywodraethu ac arwain, ac rydym ni'n awyddus i reoleiddio hynny gyda'r byrddau iechyd, yn hytrach na rhoi cyfrifoldebau ychwanegol i is-gadeiryddion presennol yr ymddiriedolaethau. Nid yw hynny'n ffordd foddhaol o fwrw ymlaen ac, mewn gwirionedd, mae cefnogaeth eang dros ddymuno gwneud hynny.

O ran eich sylw ynglŷn â newid gwasanaethau: nid oedd y cynghorau iechyd cymuned eu hunain a'r bwrdd cenedlaethol o gynghorau iechyd cymuned yn dadlau dros gadw pŵer i gyfeirio mewn cynigion i newid gwasanaethau. Mewn gwirionedd mae ganddyn nhw ddiddordeb mewn cymryd rhan yn yr agwedd am ymgysylltu parhaus, er mwyn gwneud yn siŵr nad yw hyn yn rhywbeth sydyn sy'n cael ei roi i bobl ag ychydig wythnosau o rybudd, ond y ceir ymgysylltu llawer mwy trylwyr ac eang, dros amser, wrth i gynigion gael eu datblygu. Oherwydd nid yw ein gwasanaeth iechyd a'n system gofal cymdeithasol yn gallu sefyll yn eu hunfan; rhaid cael esblygiad a diwygio cyson. Rwy'n disgwyl diwygio'r canllawiau ar y newid yn y gwasanaeth, a byddwn yn dal i ddisgwyl y bydd ymgynghori ac ymgysylltu â'r corff newydd fydd yn llais i'r dinesydd yn ymwneud â chynigion o ran newid gwasanaethau, a gobeithiaf y gallwn ni, wrth ddiwygio'r canllawiau hynny, ailadrodd hynny a gwneud hynny'n glir, ac rwy'n disgwyl y bydd cwestiwn tebyg yn cael ei ofyn drwy waith craffu'r pwyllgor, felly byddaf yn falch o ailadrodd y pwynt ehangach hwnnw.

Ac i ddychwelyd eto—nid arolygiaeth fydd y corff newydd fydd yn llais i'r dinesydd. Nid oes gan gynghorau iechyd cymuned unrhyw fwriad i fod yn ddewis amgen i swyddogaeth yr arolygiaeth. Dyma sut yr ydym ni'n gwneud yn siŵr bod llais y dinesydd yn cael gwrandawiad priodol, a sut y rhoddir cymorth i bobl yn rhan o hynny o ran eiriolaeth ym mhob agwedd ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol, ond mae'n fwy nag eiriolaeth. Ac yn y Bil, byddwch yn gweld dyletswyddau lle mae'r corff llais y dinesydd yn gofyn am wybodaeth gan ddarparwr iechyd neu ofal cymdeithasol, yna rhaid i bwy bynnag yw'r darparwr, ym mha bynnag faes iechyd neu ofal cymdeithasol, ymateb i gais rhesymol. Felly, mae pwerau yn y Bil i sicrhau bod y corff newydd yn gallu cyflawni ei swyddogaethau, oherwydd rwy'n wirioneddol edrych ar ddiwygio nid distrywio.

Rwy'n wirioneddol obeithio, wrth inni fynd drwy'r Bil hwn, y bydd Aelodau, unwaith eto, yn edrych ar yr hyn sy'n cael ei gynnig ac nid yn rhagdybio, 'mae'n rhaid bod hyn yn beth drwg, a gadewch inni frwydro nerth deng ewin', oherwydd, mewn gwirionedd, ni allwn ni ymestyn pwerau cynghorau iechyd cymuned. Mae angen inni gael corff priodol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn ei gyfanrwydd. Dylem fanteisio ar y cyfle i sicrhau bod ganddo sail annibynnol iawn i'w alluogi i wneud ei waith.

Ond hoffwn ddweud wrth yr Aelod, wrth ddisgrifio gweithgareddau presennol y cynghorau iechyd cymuned mewn gwahanol rannau o Gymru, nad wyf yn gwybod am un ohonyn nhw a fyddai'n fodlon cael ei ddisgrifio fel cyfrwng i roi sêl bendith i'r bwrdd iechyd lleol. Mae gwahanol berthnasoedd, a phan ddônt i roi tystiolaeth, byddwn yn gofyn i'r aelod ailfeddwl am—credaf fy mod yn deall rhywfaint o'r pwynt y mae hi'n ceisio ei wneud—y modd y gwneir hynny mewn gwirionedd.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Cadeirydd dros dro. Beth bynnag, rwy'n falch iawn ac rwy'n croesawu gweld cyflwyno'r Bil hwn. Rwy'n hoffi'r syniad o roi'r pwyslais ar ansawdd a gonestrwydd, ac ehangu'r diffiniadau y bydd corff llais y dinesydd i Gymru gyfan yn gallu gweithio o'u mewn. Rwyf eisiau ei gwneud hi'n glir iawn hefyd fod y cynghorau iechyd cymuned wedi gwneud gwaith rhyfeddol, ac maen nhw wedi gwneud hynny hyd eithaf eu gallu yn y rhan fwyaf o achosion, ac rwyf fi, o'm rhan fy hun, wedi gwerthfawrogi eu gwaith a'u cyngor a'u harweiniad yn y gorffennol. Dim ond eisiau dweud hynny ar goedd oeddwn i, oherwydd rwy'n siŵr bod eraill yn teimlo'r un fath.

Credaf ei bod hi'n briodol ein bod yn edrych ar gynllunio rhagweithiol a gwasanaethau diogel, effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth gamu i'r dyfodol, ond credaf mai'r hyn sy'n angenrheidiol mewn gwirionedd, ac mae'n cael ei gyflawni yma, yw cydgysylltu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn sail i'r strwythur hwnnw—yn ogystal â bod yn genedlaethol, mae ar lefel ranbarthol a lleol. Oherwydd un o'r gwendidau a nodwyd ac y soniwyd amdano yma heddiw eisoes yw'r gwendid hwnnw yn y sector gofal cymdeithasol, lle mae'n amlwg na allai cynghorau iechyd cymuned ymweld.

Yr hyn rwy'n gobeithio bydd yn deillio o hyn yw creu ffin eglur rhwng pwy yw'r arolygiaeth a phwy yw'r corff sy'n monitro rhywfaint o gynnydd, ac rwy'n siŵr y daw'r manylion yn glir wrth inni edrych yn fanylach ar y cynigion hyn. Rwy'n credu mai'r broblem sydd gennym ni ar hyn o bryd, os ydym yn dychwelyd at onestrwydd—yn aml iawn, mae ymgyfreitha'n rhwystro gonestrwydd ar hyn o bryd, ac mae hynny'n eithaf amlwg. Ni all hynny fod yn beth da ym mhob achos, felly rwy'n gobeithio, rywsut, y gallwn ni symud ymlaen i ymateb, efallai, llai gochelgar, oherwydd y bygythiad o ymgyfreitha a phenderfyniad agored a chlir yn y modd yr wyf newydd ei ddisgrifio—y cawn ni welliant effeithiol, diogel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn gwasanaethau. Oherwydd nid oes amheuaeth—ac rwy'n ddigon hen i gofio—y byddai gennych chi ychydig mwy o onestrwydd gan nad oedd gennych chi'r bygythiad eithaf o ymgyfreitha—. Credaf os gallwn ni ddychwelyd at hynny, y gallem ni wneud rhywfaint o gynnydd, efallai, mewn rhai achosion, ychydig yn gynt, ac mae hynny'n wir am y maes gofal cymdeithasol nawr, sy'n ehangu, a'r sectorau iechyd. Felly, edrychaf ymlaen, fel llawer o rai eraill yma, i weld hynt y gwaith hwn, ac, os mai dyna'r sefyllfa, y gwelliannau—os oes eu hangen—yn y trafodaethau hynny a gawn ni, nid dim ond ni yn y fan yma ymhlith ein gilydd, ond gyda'r bobl hynny yr ydym ni'n gobeithio y bydd y gwelliannau hyn yn gwneud gwahaniaeth iddynt.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:15, 18 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiynau a'r sylwadau, a chredaf ei bod hi'n bwysig—dyna'r pwynt yr oeddech chi'n ei wneud, Joyce Watson, ynglŷn â sicrhau bod hyn yn wir ym mhob rhan o iechyd a gofal cymdeithasol. Ac mae'n ddiddorol ein bod ni wedi cydweithio â'r CLlLC a lleisiau ar draws Llywodraeth Leol ynglŷn â'r cynnig, gan gynnwys y corff newydd i glywed llais y dinesydd, lle ceir cynrychiolwyr etholedig, wrth gwrs, sy'n codi materion o fewn Llywodraeth Leol ar ran eu hetholwyr, a deall sut y byddan nhw'n gweithio gyda'i gilydd i wrando ar lais  dinasyddion ac ymgysylltu â nhw. Ond mae'r dyletswyddau a bennwyd i ddod â gwybodaeth gerbron y corff newydd i glywed llais y dinesydd, fel y dywedaf, yn ymestyn ar draws iechyd a llywodraeth leol. Felly, rydym ni'n tynnu, yn wirioneddol ac yn fwriadol, y ddau sector ynghyd yn y ffordd yr ydym ni'n tynnu gofal ynghyd ar draws y ddau sector hynny hefyd.

Mae'n werth nodi hefyd y bu gan fwrdd cenedlaethol y cyngor iechyd cymuned agwedd gadarnhaol ar y cyfan ynglŷn â'r Bil yr ydym yn ei gyflwyno. Felly, efallai y dylai rhai Aelodau yn yr ystafell hon sydd wedi bod yn fwy beirniadol, edrych ar y ffordd yr ydym ni wedi gweithio o ddifrif cyn gwneud y datganiad, y ffordd y bydd sgyrsiau parhaus rhwng swyddogion yn fy adran i a bwrdd y cyngor iechyd cymuned i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn addas i gyflawni'r amcan yr ydym ni'n ei rannu, ac mae hynny'n cynnwys eglurder rhwng swyddogaeth arolygiaethau a swyddogaeth y corff i glywed llais y dinesydd. Nid wyf i'n credu bod awydd o fewn mudiad y cynghorau iechyd cymuned i gael y math hwnnw o orgyffwrdd annelwig rhwng arolygiaethau a chynghorau iechyd cymuned. Mae cyfle i gael hynny'n iawn nid yn unig o fewn y ddeddfwriaeth ond o fewn y canllawiau a'r hyn y bydd yn naturiol i ni adeiladu arno o ran y memorandwm o ddealltwriaeth sydd eisoes yn bodoli rhwng cynghorau iechyd cymuned a'n harolygiaethau ni erbyn hyn.

Ond rwy'n credu bod y pwynt a wnaeth Joyce Watson yn un pwysig ynglŷn â'r effaith rhwng ymgyfreitha a'r ddyletswydd o ddidwylledd, ac nid yw ymgysylltiad â'r ddyletswydd o ddidwylledd yn gyfystyr â chyfaddefiad o esgeulustod. Cydnabyddiaeth yw hyn bod angen am sgwrs agored gyda'r dinesydd am yr hyn sydd wedi digwydd ym maes gofal iechyd, ac fe all mwy nag ychydig o niwed gael ei achosi yn y risgiau arferol yr ydym ni i gyd yn gwybod sy'n digwydd wrth ddarparu iechyd a gofal—ond bod yn agored o ran y ffaith bod rhywbeth wedi digwydd yn hytrach na dweud, 'Ni allaf i siarad â chi am fy mod i'n pryderu y byddwch chi'n mynd at gyfreithiwr.' Mae hynny'n rhan o'r her sydd gennym ni mewn diwylliant mwy caeedig sy'n fwy amddiffynnol. Mae hyn yn fwriadol yn rhan o'r ymgysylltu ar gyfer bod â diwylliant llawer mwy agored sy'n canolbwyntio ar welliannau, felly mae'n rhaid gweld didwylledd ac ansawdd gyda'i gilydd, ac rwy'n gobeithio, wrth i'r Aelodau fynd drwy'r broses graffu, y byddan nhw'n gweld nad ymdrech onest yn unig yw hon, ond, yn gyffredinol, bod yr ymagwedd yn y lle iawn gennym ni i gyflawni hynny mewn gwirionedd.